Skip to main content

Newyddion

Mae Pantri i Bawb yn brosiect bwyd newydd sbon sydd wedi’i gynllunio i alluogi pobl leol i gael gafael ar fwyd da am brisiau fforddiadwy.

Gyda chymorth Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, rydym wedi comisiynu cwmnïoedd lleol PER Consulting a Lafan i archwilio’r galw posibl am gyfleuster cegin a rennir yng nghymunedau’r Fro sef y Barri, Penarth a Llanilltud Fawr.

Mae arolwg newydd wedi’i lansio i helpu sefydliadau yn y Fro i ddeall profiadau bwyd lleol yn well.

Mae Bwyd Caerdydd a Bwyd y Fro wedi lansio canllaw newydd ar gyfer Caffael Bwyd Cynaliadwy yn y sector cyhoeddus. 

Yn dilyn y digwyddiad cyntaf llwyddiannus y llynedd, bydd ‘Llwybr Bwyd y Fro’ yn dychwelyd yn ddiweddarach eleni, rhwng 26 Mai a 4 Mehefin 2024.

Mae Prosiect Bwyd Llanilltud, sy’n anelu at sicrhau bod prydau iach fforddiadwy ar gael i bawb yn Llanilltud Fawr, wedi ennill Gwobr Ystadau Cymru 2023.

Danfonwch eich neges atom am bwysigrwydd Masnach Deg yn mynd i’r afael â newid hinsawdd, cefnogi ffermwyr a sut allwn ni yng Nghymru ddefnyddio Masnach Deg i wneud y byd yn lle tecach a gwell, wrth inni ddathlu’r pen-blwydd hwn.

Dewch i’n cyfarfod cyntaf o’r flwyddyn ar 20 Chwefror ym Mhenarth.

Mae Cynllun Rhannu Bwyd Sain Tathan yn estyniad o Brosiect Bwyd ehangach Llanilltud, dan arweiniad Partneriaeth Fwyd y Fro a oruchwylir gan dîm Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac a ddarperir mewn cydweithrediad â phartneriaid lleol, gan gynnwys Cyngor Bro Morgannwg a Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg.

Ar 23 Tachwedd, ymunodd dros 60 o actifyddion, cynhyrchwyr bwyd a phartneriaid allweddol at ei gilydd yng Nghanolfan Gelfyddydau Memo y Barri i drafod strategaeth a gweledigaeth ar gyfer dyfodol bwyd ym Mro Morgannwg.

Mae Partneriaeth Bwyd y Fro wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais am gyllid gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin i gyflawni tri phrosiect penodol yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Trwy gyllid gan Lywodraeth Cymry, mae Partneriaeth Natur Bro Morgannwg yn datblygu prosiect perllannau cymunedol mewn ardaloedd trefol a pherthnasol yn y Bont-faen, Penarth, Llanilltud Fawr a’r Barri.