Bwyd y Fro yn gwahodd myfyrwyr i gyfrannu at strategaeth fwyd ar gyfer Bro Morgannwg yn y dyfodol

Mewn ymdrech i adeiladu system fwyd sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, mae Bwyd y Fro yn estyn allan at fyfyrwyr o bob rhan o’r Fro i helpu i lunio’r strategaeth fwyd newydd. Mewn cydweithrediad â UWC Atlantic a Cyfoeth Naturiol Cymru, gwahoddwyd y digwyddiad disgyblion ysgol rhwng 16 ac 19 oed o bob rhan o’r Fro i ymuno â’i gilydd mewn digwyddiad ar 30 Ebrill i drafod ffyrdd o sicrhau y gallwn adeiladu system fwyd iach a chynaliadwy yn y Fro. Ymunodd dros 25 o fyfyrwyr â’r gweithdy, a gynhaliwyd yn Sain Dunwyd gan  Raglen Trawsnewid Systemau  y Coleg Dunwyd lle roedd y mynychwyr yn  cydweithio i drafod pa newid yr oeddent am ei weld ar gyfer dyfodol bwyd yn y Fro. Defnyddiodd y disgyblion y Fframwaith Tair Gorwel i’w helpu i lywio drwy’r cwestiynau cymhleth ynghylch sut y gallai cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol allu prynu, coginio, bwyta, tyfu a rhannu bwyd da.  Mae rhagor o wybodaeth y fframwaith Tri Gorwel yma. Mae datblygiad y strategaeth yn cael ei arwain gan Bwyd y Fro, y bartneriaeth bwyd gynaliadwy leol ar gyfer Bro Morgannwg. Bydd y strategaeth yn arwain ar greu a gweithredu system fwyd leol iach a chynaliadwy yn y Fro hyd at 2030, a bydd yn cael ei fframio o fewn gweledigaeth 100 mlynedd ar gyfer y system fwyd ym Mro Morgannwg mewn ymdrech i sicrhau bod anghenion cenedlaethau’r dyfodol hefyd yn cael eu hystyried. Mae’r digwyddiad yn adeiladu ar y trafodaethau gafwyd yn nigwyddiad ymgysylltu Ein Gorwelion Bwyd a gynhaliwyd ym Memo’r Barri ym mis Tachwedd 2023. Mae Bwyd y Fro yn parhau i weithio gyda phartneriaid allweddol a’r gymuned leol i ddatblygu strategaeth fwyd leol sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac yn diolch i’r myfyrwyr ddaeth i’r gweithdy am helpu i’w llunio. Os hoffech wybod mwy, cysylltwch.