Skip to main content
Local Producer Alis Edibles

Ein partneriaid

Mae’r bartneriaeth yn cael ei chynnal gan Dîm Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ac mae wedi sefydlu Grŵp Llywio traws-sector i helpu i arwain y gwaith hwn.

(Photo by Matthew Horwood)

Rydyn ni’n rhan o rwydwaith sy’n tyfu o bartneriaethau bwyd sy’n mabwysiadu dull systemau sy’n seiliedig ar leoedd ar gyfer bwyd iach a chynaliadwy o dan y rhaglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy (SFP) ledled y DU. Mae 22 o bartneriaethau bwyd eisoes yn bodoli ym mhob rhan o Gymru, ac mae 10 o’r rhain yn aelodau gweithredol o’r rhaglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy. Gall Bwyd yn y Fro gysylltu â phartneriaethau bwyd ym mhedair gwlad y Deyrnas Unedig a dysgu oddi wrthynt, yn enwedig partneriaethau bwyd eraill ledled Cymru drwy Synnwyr Bwyd Cymru – partner cyflawni cenedlaethol Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yng Nghymru. Across Wales, 22 food partnerships already exist, 10 of which are active members of the Sustainable Food Places programme. Food Vale is able to connect with and learn from food partnerships from across all four nations, especially with other food partnerships from across Wales through Food Sense Wales – the national delivery partner of SFP in Wales.

IMG_0889-scaled

Ers ei sefydlu yn 2017, mae Bwyd y Fro wedi cynnal gwyliau a llwybrau bwyd, buddsoddi mewn prosiectau tyfu bwyd cymunedol a phantrïoedd bwyd, cefnogi gweithdai sgiliau coginio a maeth ac wedi mynd ymlaen i ennill gwobr Arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy. Rydyn ni hefyd yn gweithio’n agos gyda phartneriaid ar bob lefel i sicrhau bod bwyd yn cael ei ystyried yn rhan ganolog o waith strategol ehangach. We also work closely with partners at all levels to ensure that food is embedded in wider strategic work.

Gall unrhyw un fod yn rhan o bartneriaeth Bwyd y Fro: unwaith bob tri mis, rydyn ni’n cynnal cyfarfod wyneb yn wyneb i roi cyfle i bawb gysylltu, rhannu syniadau, a bod yn llais ar y cyd dros newid.