‘Ceginau dros dro’ newydd FareShare Cymru ar gael i aelodau yn y Fro!
Mae cyfle newydd wedi codi i aelodau FareShare Cymru fenthyg offer cegin ar gyfer arlwyo bwyd.
Mae’r mathau o fwyd dros ben y mae FareShare Cymru yn eu derbyn wedi newid yn ddiweddar, ac mae FareShare Cymru yn cael mwy o fathau o fwydydd arlwyo nag erioed.
Fel bob amser, maen nhw eisiau sicrhau nad oes unrhyw fwyd da yn mynd yn wastraff.
Er mwyn cefnogi aelodau presennol FareShare Cymru i dderbyn bwyd arlwyo, maent wedi datblygu nifer cyfyngedig o ‘geginau dros dro’ sydd ar gael i aelodau am ddim. Mae’r ceginau dros dro i gefnogi aelodau i dderbyn bwyd dros ben maint arlwyo a’i droi’n brydau bwyd i gefnogi’r gymuned leol.
Mae’r ceginau’n cynnwys (nid yw’n rhestr gynhwysfawr): ffwrn gludadwy, dau hob cludadwy, popty araf, peiriant ffrio aer, popty reis, stemiwr, powlenni cymysgu, cwpanau mesur, jygiau mesur, potiau, sosbenni, offer coginio, llwyau, ffyrc a chyllyll, setiau byrddau torri, llestri a phopeth y gallai fod ei angen arnoch o bosibl i gynnal prosiect coginio llwyddiannus a mawr ei angen yn eich cymuned.
Os hoffech gael eich ystyried i dderbyn cegin dros dro am ddim, cwblhewch eu ffurflen gais yma
Ffurflen Gais Cegin Dros
Dro