LLWYBR BWYD Y FRO 2024 YN CYHOEDDI AMSERLEN LLAWN DIGWYDDIADAU
https://foodvale.org/wp-content/uploads/2024/05/PORTRAIT-Web-212×300.jpgGŵyl deg diwrnod i ddychwelyd o 26 Mai tan 4 Mehefin 2024
gyda ffermwyr, cynhyrchwyr a busnesau lletygarwch lleol i gyd yn cymryd rhan
Mae’r digwyddiad yn addo ‘archwiliad o fwy, ffermio a chynaliadwyedd
ym Mro Morgannwg’ – gyda llawer o sesiynau am ddim i gymryd rhan ynddynt
Mae’r rhaglen llawn digwyddiadau ar gyfer ‘Llwybr Bwyd y Fro‘, yr ail i’w gynnal erioed, wedi cael ei datgelu bellach. Yn dilyn digwyddiad cyntaf llwyddiannus y llynedd, bydd gŵyl 2024 yn cynnwys mwy na 25 o fusnesau lleol yn cynnig teithiau fferm, digwyddiadau blasu, arddangosfeydd arbennig, arddangosiadau byw – a llawer, llawer mwy. Ac yntau’n cael ei gynnal rhwng 26 Mai a 4 Mehefin 2024, mae Llwybr Bwyd y Fro yn galendr pythefnos o ddigwyddiadau aml-leoliad, wedi’i gynllunio i ddod â phobl yn agosach at gynhyrchwyr a busnesau bwyd yn yr ardal leol. Mae hefyd yn gweithredu fel dathliad o dreftadaeth gastronomig gyfoethog y rhanbarth a’i ymrwymiad i arferion ffermio cynaliadwy. Bydd ymwelwyr a phobl leol yn gallu ymweld ag amrywiaeth o gynhyrchwyr, ffermydd a busnesau eraill ledled yr ardal sydd i gyd wedi cofrestru i gynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau am ddim a rhai sy’n codi tâl sy’n arddangos bwyd sy’n dda i bobl, y blaned a’r ardal.- I’r rhai sydd â bysedd gwyrdd ac sy’n dyheu am fyw’n gynaliadwy, bydd profiadau fel yr ‘Arddangosiad Garddio Dim Palu’ yn Ali’s Edibles, Dyr arddangosiad tyfu perlysiau yng Nghanolfan Arddio Pugh, taith fferm arddwriaethol yn Bonvilston Edge a ‘Thaith a Gwerthiant Planhigion Gardd y Goedwig’ gan Ediculture yn Coed Hills yn cynnig mewnwelediadau i ddulliau tyfu eco-gyfeillgar.
- Gall ymwelwyr sychedig fwynhau teithiau tywys o winllannoedd yng Gwinllan Saint Hilari a Gwinllan Glyndŵr, blasu gwin a chaws Cymreig wedi’u paru yn Barry Island Spirits Co, archwilio byd cwrw crefft yn nigwyddiad blasu Craft Republic, sipian ar winoedd ymyrraeth gynaliadwy ac isel gan Corc, neu ymgolli yng nghrefft gwneud jin yn Nistyllfa Castell Hensol. Mae digwyddiad taith lle rhostio a blasu hefyd wedi’i gynllunio yn The Welsh Coffee Co yn Ewenni, ynghyd â thaith blanhigfa a blasu yn lleoliad arobryn Peterston Tea.
- Ymhlith uchafbwyntiau diwylliannol yr ŵyl bythefnos bydd dangosiad y ffilm ‘Six Inches of Soil’ a drefnir gan Gyfeillion Coed Pencoedtre a Phartneriaeth Natur Leol y Fro, a’r arddangosfa gelf ‘Lle i Dyfu’ gan CBC Urban Vertical, y mae’r ddau ohonynt yn addo ysgogi meddwl a thrafodaeth ynghylch pynciau bwyd, cynaliadwyedd a chymuned.
- P’un ai dysgu sut i wneud sebon llaeth gafr gyda Garlic Meadow, mwynhau mochyn rhost ar y lawnt yn Forage Farm, dysgu am doriadau stêc gan Farmer’s Pantry yn Rosedew Farm, mynd am dro chwilota dan arweiniad yn Slade Farm, neu ymlacio gyda cherddoriaeth fyw a bwyd stryd lleol yng Ngŵyl y Môr, mae Llwybr Bwyd y Fro yn cynnig rhywbeth i bawb, gan wahodd ymwelwyr i sawru blasau Bro Morgannwg wrth gefnogi busnesau lleol.