Lansio arolwg newydd i ysgogi dysgu gyda phrofiadau bwyd ym Mro Morgannwg
Mae arolwg newydd wedi’i lansio i helpu sefydliadau yn y Fro i ddeall profiadau bwyd lleol yn well.
Ynghyd â’r arolwg ar-lein mae cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu a gynhelir drwy gydol mis Mawrth, Ebrill a Mai gyda grwpiau ledled y Fro i roi cyfle i breswylwyr rannu eu profiadau o brynu, coginio a bwyta’n dda.
Mae’n rhan o
waith ymchwil ac ymgysylltu newydd ar ansicrwydd bwyd sy’n cael ei arwain gan bartneriaeth Bwyd y Fro, gyda’r gobaith y gall hyn siapio Strategaeth Bwyd y Fro (sy’n cael ei datblygu). Bydd canlyniadau’r arolwg yn helpu i lywio’r ffordd y gall partneriaid gefnogi cymunedau lleol yn well i gael gafael ar fwyd sy’n hybu eu hiechyd a’u lles.
Llenwch yr arolwg deng munud.
Bydd yr holl ymatebion yn gyfrinachol, a bydd cyfranogwyr yn cael eu cynnwys mewn raffl wobrau i gael cyfle i ennill un o bedwar hamper gan Awesome Wales, siop ddiwastraff gyntaf y Fro.
Os hoffech gael gwybod mwy am gyfleoedd i ymuno ag un o’r digwyddiadau ymgysylltu, cysylltwch â ni.
Mae’r arolwg ar gael yn Gymraeg, Saesneg ac Wcreineg.
Llenwch yr arolwg deng munudhttps://foodvale.org/wp-content/uploads/2024/04/FOOD-VALE-SURVEY-INSTAGRAM-Welsh-scaled.jpg