Prosiect newydd yn lansio i archwilio’r galw lleol am gyfleusterau cegin a rennir yn y Fro

Oes gennych chi ddiddordeb mewn bwyd neu goginio?

A allai eich sefydliad/clwb/cymdeithas/casgliad o ffrindiau gwneud defnydd o gegin gymunedol leol?

A fyddai eich busnes yn elwa o gael cegin brofi broffesiynol ym Mro Morgannwg?

Bwyd y Fro (Food Vale) yw’r bartneriaeth bwyd cynaliadwy ar gyfer Bro Morgannwg. Gyda chymorth Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, rydym wedi comisiynu cwmnïoedd lleol PER Consulting a Lafan i archwilio’r galw posibl am gyfleuster cegin a rennir yng nghymunedau’r Fro sef y Barri, Penarth a Llanilltud Fawr. Mae’r ymgynghorwyr yn awyddus i glywed gennych os ydych yn sefydlu busnes bwyd newydd neu, os ydych eisoes wedi sefydlu, a allech fod wedi elwa ar argaeledd cegin fasnachol i’w llogi pan ddechreuoch. A fyddech chi’n defnyddio cyfleuster o’r fath i dreialu syniadau newydd neu lansio cynhyrchion newydd? Ydych chi’n cynhyrchu bwyd yn lleol? A allech chi gyflenwi sefydliadau cymunedol lleol i greu prydau wedi’u coginio’n lleol ar gyfer y rhai mwyaf anghenus? Ydych chi’n ymdrechu i helpu’ch cymuned leol i ddysgu mwy am fwyta’n iach neu’n awyddus i wella sgiliau coginio ar gyfer pob oed yn yr ardal leol? Efallai eich bod eisoes yn darparu cymorth o’r fath ond a fyddai cyfleuster cegin gymunedol bwrpasol yn caniatau i chi wneud hyd yn oed mwy? Cysylltwch â ni os ydych am gymryd rhan drwy e-bostio keith@perconsulting.co.uk Cyn hir, byddwn yn lansio arolwg ar-lein byr i gasglu eich barn a’ch mewnwelediad i’r cyfleoedd ar draws Bro Morgannwg a byddwn yn rhannu manylion trwy grwpiau cymunedol a gwefan Bwyd y Fro sydd ar gael yma. https://foodvale.org/wp-content/uploads/2023/12/IMG_8588-300×200.jpg