Lansio arolwg newydd i asesu’r galw am fannau cegin cymunedol a masnachol yn y Fro

Oes gennych chi ddiddordeb mewn bwyd neu goginio?
A allai eich sefydliad/clwb/cymdeithas/casgliad o ffrindiau gwneud defnydd o gegin gymunedol leol?
A fyddai eich busnes yn elwa o gael cegin brofi broffesiynol ym Mro Morgannwg?

Bwyd y Fro (Food Vale) yw’r bartneriaeth bwyd cynaliadwy ar gyfer Bro Morgannwg. Gyda chymorth Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, rydym wedi comisiynu cwmnïoedd lleol PER Consulting a Lafan i archwilio’r galw posibl am gyfleuster cegin a rennir yng nghymunedau’r Fro sef y Barri, Penarth a Llanilltud Fawr.

Mae’r ymgynghorwyr yn awyddus i glywed gennych os ydych yn sefydlu busnes bwyd newydd neu, os ydych eisoes wedi sefydlu, a allech fod wedi elwa ar argaeledd cegin fasnachol i’w llogi pan ddechreuoch.

A fyddech chi’n defnyddio cyfleuster o’r fath i dreialu syniadau newydd neu lansio cynhyrchion newydd?
Ydych chi’n cynhyrchu bwyd yn lleol?

A allech chi gyflenwi sefydliadau cymunedol lleol i greu prydau wedi’u coginio’n lleol ar gyfer y rhai mwyaf anghenus?

Llenwch yr arolwg ymahttps://foodvale.org/wp-content/uploads/2024/06/BwydYFro-LinkedIn.png

Ydych chi’n ymdrechu i helpu’ch cymuned leol i ddysgu mwy am fwyta’n iach neu’n awyddus i wella sgiliau coginio ar gyfer pob oed yn yr ardal leol?

Efallai eich bod eisoes yn darparu cymorth o’r fath ond a fyddai cyfleuster cegin gymunedol bwrpasol yn caniatáu i chi wneud
hyd yn oed mwy?

Gwerthfawrogwn eich barn ar y cyfleoedd a’r potensial ar gyfer cyfleusterau cegin a rennir ar draws Bro Morgannwg ac rydym wedi paratoi arolwg byr i gasglu eich adborth sydd ar gael yma.

Os hoffech fwy o wybodaeth neu gymryd rhan bellach, e-bostiwch keith@perconsulting.co.uk

Bydd diweddariadau pellach hefyd yn cael eu rhannu trwy wefan Bwyd y Fro sydd ar gael yma