Newyddion
Codi ymwybyddiaeth o fudd-daliadau’n ymwneud â bwyd yng Nghymru!
Mae Timau Iechyd y Cyhoedd a Deieteg Lleol BIP Caerdydd a’r Fro wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth i amlygu’r Budd-daliadau’n Ymwneud â Bwyd sy’n bodoli i gefnogi teuluoedd ar incwm isel i gael mynediad at fwyd iachach.
Mae Academi Arlwyo a Lletygarwch newydd yn ceisio cael mwy o weithwyr proffesiynol medrus i mewn i’r sector lletygarwch
Mae Academi Arlwyo a Lletygarwch wedi’i gynllunio i roi’r sgiliau cyflawn sydd eu hangen arnoch i ddechrau eich gyrfa ym maes lletygarwch. Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at unigolion a hoffai archwilio llwybrau gyrfa blaen-tŷ a chefn-tŷ; ac sydd am ddod o hyd i waith yn y diwydiant cyflym ac amrywiol hwn.
Cyfarfod Tachwedd Bwyd y Fro
Dewch i’n gofod rhwydweithio anffurfiol agored i greu cysylltiadau, canfod mwy am brosiectau a mentrau bwyd lleol a rhannu syniadau
Cyfle newydd i ddysgu sut i goginio prydau iach a blasus ar gyllideb yn y Barri!
Mae’n bleser gennym gyhoeddi cwrs Dewch i Goginio wythnosol newydd yng Nghanolfan Gymunedol Castleland yn y Barri.
Lansio Canolfan Bwyd a Mwy Llanilltud yn llwyddiant mawr
Yn ddiweddar, bu trigolion Llanilltud Fawr a’r gymuned ehangach yn bresennol yn lansiad swyddogol y Ganolfan Bwyd a Mwy newydd, o dan Bartneriaeth Prosiect Bwyd Llanilltud Cyngor Bro Morgannwg, dan arweiniad Bwyd y Fro.
Ymunwch â ni i ddathlu lansiad Prosiect Bwyd Llanilltud
Ar ran ein Partneriaeth Prosiect, mae’n bleser gennym eich gwahodd i fynychu lansiad ar y cyd Prosiect Bwyd Llanilltud
Diweddariad gan Lywodraeth Cymru ar bartneriaethau bwyd
Ddydd Llun, Gorffennaf 11eg, bu Jane Hutt, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn cadeirio Uchwgynhadledd Costau Byw lle cyhoeddodd cyfres o ymyriadau, gan gynnwys cefnogaeth ariannol ar gyfer partneriaethau bwyd traws-sector yng Nghymru.
Y Loteri Genedlaethol yn cymeradwyo cyllid ar gyfer prosiect y Fro i wella mynediad at fwyd
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Prosiect Mynediad at Fwyd Llanilltud Fawr wedi llwyddo i gael cyllid ar gyfer ei gynllun peilot, sydd yn creu mynediad at fwyd fforddiadwy, iach a maethlon ar gyfer llawer o gymunedau ar draws y Fro.
Blas ar lwyddiant: Bro Morgannwg yn dathlu cyflawni Gwobr Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy
Heddiw (dydd Mercher, 15 Mehefin), cyhoeddwyd bod Bro Morgannwg wedi ennill statws Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, sy’n golygu mai dyma’r ail le yn unig yng Nghymru i gael yr anrhydedd.
Y Cinio Mawr yw eich cyfle i ddathlu cysylltiadau cymunedol a dod i adnabod eich gilydd ychydig yn well.
Diddordeb yn cymryd rhan yn #YCinioMawr eleni? Rydym yn cynnig £150 i un grŵp Lwcus yn y Fro sydd eisiau cymryd rhan yn Y Cinio Mawr fis Mehefin.
Mae cymunedau’r Fro yn datblygu’r mudiad bwyd da lleol yng Ngŵyl Bwyd y Fro
Mae cymunedau ar draws y Fro yn cymryd yr awenau eleni yn ail Ŵyl Bwyd y Fro.
Trefnir yr ŵyl gan Bwyd y Fro, sy’n rhan o rwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy – rhaglen bartneriaeth dan arweiniad y Soil Association, Food Matters a Sustain: y gynghrair ar gyfer gwell bwyd a ffermio.