Y Loteri Genedlaethol yn cymeradwyo cyllid ar gyfer prosiect y Fro i wella mynediad at fwyd
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Prosiect Mynediad at Fwyd Llanilltud Fawr wedi llwyddo i gael cyllid ar gyfer ei gynllun peilot, sydd yn creu mynediad at fwyd fforddiadwy, iach a maethlon ar gyfer llawer o gymunedau ar draws y Fro.
Cydgynhyrchodd partneriaid y prosiect, yn cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg, Bwyd y Fro, Cyngor y Fro, ysgolion lleol, Cyngor tref Llanilltud Fawr, FareShare Cymru a mwy, y cais am grant Pobl a Lleoedd y Loteri yn ôl ym mis Mawrth.
Cafodd y cais ei gymeradwyo ym mis Mai, a bydd y cynllun gweithredu arfaethedig nawr yn cael ei weithredu i sefydlu’r nod: ‘Pryd o fwyd da i bawb, bob dydd.’ Mae Rhaglen Grant Pobl a Lleoedd y Loteri Genedlaethol a lansiwyd yn 2005, yn cynnig grantiau rhwng £10,000 a £500,000 i unrhyw sefydliad yn y trydydd sector, grŵp cymunedol, corff cyhoeddus neu fenter gymdeithasol sydd yn gwneud cais am gyllid i gefnogi prosiectau sydd â’r nod o gael effaith gadarnhaol mewn cymunedau.

Dywedodd Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Rydym wrth ein bodd ac yn ddiolchgar i Raglen Grant Pobl a Lleoedd y Loteri am y cyllid y mae’r prosiect wedi ei dderbyn. Bydd y prosiect hwn yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau a llesiant llawer ar draws y Fro, trwy alluogi mynediad hawdd at fwyd iach. Mae deiet da yn hanfodol i ni i gyd i gynnal iechyd corfforol a meddyliol da, yn ogystal â lleihau ein risg o gyflyrau iechyd hirdymor.
“Mae llawer o bobl ar draws ein cymunedau yn y Fro yn ei chael hi’n anodd bwydo eu hunain a’u teuluoedd, ac mae hyn wedi gwaethygu ers y pandemig a’r argyfwng costau byw. Mae’r prosiect hwn yn dangos pa mor effeithiol y gall gweithio mewn partneriaeth fod. Mae’n bwysig i ni i gyd i dynnu at ein gilydd i gefnogi ein cymunedau a mynd i’r afael â mynediad at fwyd a heriau fforddiadwyedd gyda’n gilydd, er mwyn sicrhau bod pawb yn cael bwyd da bob dydd.”
Ymysg preswylwyr lleol, nod y prosiect mynediad at fwyd yw cynyddu mynediad at fwyd fforddiadwy a chymorth ehangach, cynyddu’r teimlad o gysylltedd cymunedol, cynyddu dealltwriaeth o faeth a sgiliau coingio a chreu mwy o ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael i unigolion a theuluoedd.
Roedd rhestr o’r camau arfaethedig yn seiliedig ar adborth a dderbyniwyd gan gymunedau a darparwyr gwasanaeth yn ystod cyfnodau ymgysylltu trwyadl i gyflawni’r nodau hyn. Maent yn cynnwys:
- Cefnogi datblygiad hyb bwyd a llesiant yng Nghanolfan Gymunedol CF61.
- Ymestyn pantris bwyd i gyrraedd cymunedau gwledig eraill
- Defnyddio gwasanaethau trafnidiaeth gwledig i ddod â phobl at fwyd
- Gwella cyfathrebu i gynyddu ymwybyddiaeth a meithrin ysbryd cymunedol
Dywedodd Paul Warren, Rheolwr Gweithredol i Wasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GVS), “Fel gweithredwr FoodShare Llanilltud Fawr yn ein Canolfan CF61, gwyddom o brofiad fod tlodi bwyd yn fater gwirioneddol ar draws Bro Morgannwg. Rydym yn croesawu eich cyfranogiad fel partner allweddol yn y prosiect, yn mynd i’r afael â’r materion sy’n effeithio ar y rheiny yr ydym yn eu cefnogi yn y gymuned.”
Dywedodd y Cyng. Bronwen Brooks, Aelod o Gabinet Cyngor Bro Morgannwg ar gyfer Mannau Cynaliadwy: “Rwyf wrth fy modd bod y cyllid hwn wedi cael ei sicrhau a hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad i Raglen Grant Pobl a Lleoedd y Loteri.
“Mae gan bawb hawl i fwyd iach a maethlon, a dyma pam mae hybu bwyta’n iach yn brif flaenoriaeth i’r Cyngor.
“Yn anffodus, nid yw bob amser yn bosibl i bobl fforddio cynnyrch iach ac mae hynny’n debygol o fynd yn fwy o broblem wrth i’r argyfwng costau bwyd barhau i gael effaith.
“Mae’r Cyngor eisoes yn gweithredu Pod Bwyd ym Mhenarth, gyda’r cynnwys ar gael ar sail ‘talwch fel y gallwch’, a bydd Prosiect Mynediad at Fwyd Llanilltud Fawr yn cynnig cymorth pellach yn hyn o beth.”
Mae mwy o wybodaeth am y gwasanaethau cyngor a chymorth sydd ar gael yma.