Ddydd Llun, Gorffennaf 11eg, bu Jane Hutt, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn cadeirio Uchwgynhadledd Costau Byw lle cyhoeddodd cyfres o ymyriadau, gan gynnwys cefnogaeth ariannol ar gyfer partneriaethau bwyd traws-sector yng Nghymru.

Bydd y gefnogaeth ariannol hon gwerth £3miliwn yn cefnogi datblygiad partneriaethau bwyd traws-sector.  Bydd y cyllid hwn hefyd yn cryfhau partneriaethau bwyd sy’n bodoli eisoes gan helpu i feithrin cydnerthedd mewn rhwydweithiau bwyd lleol drwy gydlynu gweithgarwch ar lawr gwlad sy’n gysylltiedig â bwyd i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd.  Bydd y rhwydweithiau hyn yn hybu gweithredu gan ddinasyddion, yn gwneud y mwyaf o effeithiolrwydd prosiectau ac yn sicrhau bod adnoddau’n cael eu targedu i’r mannau lle mae’r angen mwyaf.