- Cefnogi’r FoodShare presennol yn CF61 i newid i fodel pantri lle gall pobl dalu tanysgrifiad a chael mynediad at fwyd fforddiadwy.
- Sefydlu man gollwng FareShare newydd yn Llanilltud CF61 i wasanaethu ardal orllewinol y Fro.
- Sefydlu hwb sy’n rhoi cyngor ac yn cyfeirio at gefnogaeth ehangach ynghylch cyflogaeth, budd-daliadau a hawliau, iechyd meddwl a thai.
- Treialu gwasanaeth pantri bwyd symudol.
- Sefydlu ymgyrch gyfathrebu i godi ymwybyddiaeth ac ysgogi ysbryd cymunedol.
Ymunwch â ni i ddathlu lansiad Prosiect Bwyd Llanilltud
Ar ran ein Partneriaeth Prosiect, mae’n bleser gennym eich gwahodd i fynychu lansiad ar y cyd Prosiect Bwyd Llanilltud ac Age Connects yng Nghanolfan Gymunedol CF61 a Thŷ Illtud, Heol yr Orsaf, Llanilltud Fawr. Cynhelir y digwyddiad ddydd Iau 20 Hydref 2022 o 1pm tan 3pm.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal gan Age Connects a phartneriaid Prosiect Bwyd Llanilltud, gan gynnwys Bwyd y Fro, Cyngor Bro Morgannwg, Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg, Cyngor Tref Llanilltud Fawr, FareShare, Cymdeithas Tai Newydd, a mwy. Mae rhestr lawn o bartneriaid i’w gweld ar dudalen we prosiect.
Dechreuodd Prosiect Bwyd Llanilltud ym mis Hydref 2020, pan ddaeth partneriaid allweddol at ei gilydd i archwilio beth yw’r rhwystrau i gael mynediad ar fwyd da yn Llanilltud Fawr. Trwy gynnal sgyrsiau gydag aelodau ac arbenigwyr lleol yn y gymuned, mae nawr gan y grŵp gwell dealltwriaeth o’r hyn y gellid ei wneud i wella hyn, ac wedi datblygu cyfres o gamau allweddol, gan gynnwys: