Cyfarfod Mawrth Bwyd y Fro – Mae Croeso i Bawb!

Dewch i Gyfarfod ein Rhwydwaith ar 30 Mawrth am gyfle i gysylltu â gweithredwyr eraill yn y Fro a chreu llais ar y cyd dros newid lleol! Mae croeso i bawb!

Cynhelir y cyfarfod yn CF61 yn Llanilltud Fawr. Bydd hwn yn gyfle i gysylltu â phobl o’r un anian, trafod eich syniadau am system fwyd leol gynaliadwy yn y Fro, a chlywed gan rai o’r gweithredwyr y mae Bwyd y Fro yn gysylltiedig â nhw ar hyn o bryd.

Bydd cyfarfod y mis yn cynnwys cyfle i:

  • cynnig syniadau am brosiectau sy’n ymwneud â bwyd y gallech fod yn ceisio cyllid ar eu cyfer (e.e. o’r Gronfa Ffyniant Cyffredin, y gronfa Cymunedau Cryfach, neu grantiau eraill)
  • gwahodd cefnogaeth gan gyd-aelodau Rhwydwaith Bwyd y Fro

Mae angen gwirfoddolwyr i helpu gyda chynllunio a hwyluso – cysylltwch os oes gennych ddiddordeb: louise.denham@wales.nhs.uk.

Mae Canolfan CF61 yn daith gerdded o ddau munud o orsaf drenau Llaniltud Fawr, ar gyfer y rheiny sy’n dymuno cyrraedd ar y trên.

Archebwch nawrhttps://foodvale.org/wp-content/uploads/2023/03/Cym_SM.png