Ydych chi eisiau gweithio yn Arlwyo a Lletygarwch?
Mae Academi Arlwyo a Lletygarwch wedi’i gynllunio i roi’r sgiliau cyflawn sydd eu hangen arnoch i ddechrau eich gyrfa ym maes lletygarwch. Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at unigolion a hoffai archwilio llwybrau gyrfa blaen-tŷ a chefn-tŷ; ac sydd am ddod o hyd i waith yn y diwydiant cyflym ac amrywiol hwn.
Mae graddedigion y cwrs hwn yn sicr o gael cyfweliad gyda chyflogwyr sydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd a/neu’r Fro a byddant yn cyflawni dau gymhwyster ochr yn ochr ag ystod o sgiliau cyflawn a ddymunir gan gyflogwyr yn y diwydiant.
Bydd graddedigion yn cyflawni:
- Dyfarniad Lefel 2 Highfields mewn Diogelwch Bwyd
- Dyfarniad Lefel 2 mewn Sgiliau Barista
Mae myfyriwr y cwrs hwn yn elwa ymhellach ar fynediad i ‘Gronfa Rhwystr’, sef cronfa sydd ar gael i ddileu unrhyw rwystrau i fynychu’r cwrs (fel cludiant, neu gostau gofal plant*).
Noddir y Gronfa Rhwystr yn garedig gan FOR Cardiff.
