‘LLWYBR BWYD Y FRO’ CYNTAF YN CYHOEDDI AMSERLEN LAWN O DDIGWYDDIADAU
https://foodvale.org/wp-content/uploads/2023/05/IMG_8690-scaled.jpgCynhelir gŵyl fwyd newydd 9 – 18 Mehefin 2023
30+ o ffermwyr, cynhyrchwyr a busnesau lletygarwch lleol yn cymryd rhan
Mae’r digwyddiad yn addo bod yn ‘archwiliad o fwyd, ffermio a chynaliadwyedd ym Mro Morgannwg’ – gyda llawer o’r sesiynau am ddim
Mae’r rhaglen lawn o ddigwyddiadau ar gyfer ‘Llwybr Bwyd y Fro’ bellach wedi’i chyhoeddi; mae’n cynnwys dros 30 o fusnesau lleol sy’n cynnig teithiau fferm, gweithdai coginio, digwyddiadau blasu, arddangosfeydd arbennig, arddangosiadau byw – a llawer, llawer mwy. Mae Llwybr Bwyd y Fro , a gynhelir 9 – 18 Mehefin, yn galendr o ddigwyddiadau wedi’u cynllunio i ddod â phobl yn agosach at gynhyrchwyr bwyd a busnesau yn yr ardal leol. Bydd ymwelwyr a phobl leol yn gallu teithio o amgylch yr ardal, gan ymweld ag amrywiaeth o gynhyrchwyr, bwytai a busnesau eraill yn annibynnol; mae dros ddeg ar hugain wedi cofrestru i gyd, sydd yn cynnig rhaglen o ddigwyddiadau yn cyflwyno bwyd sy’n dda i’r hinsawdd ac i natur (neu’n amaeth-ecolegol).- Yn Y Barri, gall y rheiny sy’n mynd ar y llwybr fwynhau Gweithdy Coginio Sgrap gyda siop ddiwastraff Awesome Wales; dysgu am wneud Sauerkraut a Kombucha yn Karry’s Deli; mwynhau Blasu Gwin yr Haf yn Craft Republic; neu fynd ar daith Blasu Bwyd y Barri i ddarganfod hoff leoliad newydd bwydgarwyr.
- Yn Llanilltud Fawr, bydd Taith Gardd Farchnad gydag Ali’s Edibles yn egluro’r broses o dyfu cynaliadwy ‘heb balu’; bydd Gŵyl Bwyd a Diod Llanilltud Fawr yn cyflwyno amrywiaeth o fasnachwyr lleol; a bydd Arddangosfa Gelf Masnach Deg yn Eglwys Sant Illtud yn tynnu sylw at y byd drwy lygaid plant yn y gymuned leol.
- Ym Mhenarth, bydd amrywiaeth o Flasau a Chynigion yn Foxy’s Deli yn cyflwyno cynhyrchwyr lleol fel Grounds for Good a Baa Baa Rum; a bydd Arddangosfa Meicrolysiau gan CBC Urban Vertical yn archwilio’r cysylltiadau rhwng bwyd, celf a dylunio yn y Gofod Gwneuthurwyr yn Llyfrgell Penarth; a bydd digwyddiad Bwyd, Pobl a’r Blaned yn Neuadd Lai yr Holl Seintiau yn dod ag amrywiaeth o stondinau a gweithgareddau ynghyd i archwilio cysylltiadau rhwng yr hyn yr ydym yn ei fwyta a sut rydym yn byw, heddiw ac yn y dyfodol.
- Yn y Bont-faen, bydd Taith Gwinllan Saint Hilari yn rhoi cipolwg ar yr heriau o wneud gwin; a bydd cinio dau gwrs a thaith o amgylch Gwinllan Glyndŵr yn gyfle i gwrdd â’r ieir a’r llamas sy’n byw yno; bydd Taith Perllan ym Mherllannau Llanfleiddan yn esbonio sut mae eu dull dim chwistrellu o fudd i fioamrywiaeth leol; a gellir Blasu Te a Choffi gan Cortile Coffee. Bydd y rheiny sy’n mynd ar y llwybr hefyd yn gallu Cwrdd â’r Gwenyn neu wylio Arddangosiad Coginio Barbeciw yn Siop a Chegin Forage Farm; neu roi cynnig ar Wneud Sebon gyda llaeth Geifr Garlic Meadow yng Ngerddi’r Hen Neuadd.
- Yng Ngorllewin y Fro, bydd Saffari wrth i’r Haul Fachlud yn mynd â theuluoedd ar daith o amgylch Fferm Slade i weld y bywyd gwyllt toreithiog sy’n ffynnu mewn system ffermio organig; a bydd Banquet Under the Stars yn defnyddio’r cynhwysion lleol gorau ar gyfer gwledd pedwar cwrs yn y Three Golden Cups; a bydd Arddangosiad Godro yn Fferm Laeth Organig Penuchadre – ac yna cyfle i roi cynnig ar eu hysgytlaeth blasus.
- Mewn mannau eraill yn y Fro, bydd Taith a Blasu Te Planhigfa yn rhoi cipolwg i ymwelwyr ar fyd te Cymreig yn Peterston Tea; a bydd Taith Arddwriaeth gyda Bonvilston Edge yn dangos realiti tyfu bwyd; a bydd Arddangosfeydd Llyfrau Bwydgarwyr ar draws y Fro yn cael eu cynnal mewn llyfrgelloedd lleol (Y Barri, Llanilltud Fawr, Penarth a’r Bont-faen) trwy gydol Llwybr Bwyd y Fro.
Louise Denham yw cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Bwyd y Fro, ac un o gydlynwyr yr ŵyl. Meddai hi, “Mae’n gyffrous gweld y cynlluniau ar gyfer Llwybr Bwyd y Fro yn dod at ei gilydd, a dychmygu sut gallai’r llwybr hwn helpu i feithrin gwerthfawrogiad gwell o’n ffermwyr a’n busnesau bwyd lleol – yn ogystal â’r posibilrwydd o greu tir ffrwythlon i fusnesau cynaliadwy dyfu yn y Fro.”Mae rhagor o fanylion am ddigwyddiadau penodol, busnesau sy’n cymryd rhan a sut i archebu tocynnau ar gyfer pob digwyddiad ar gael nawr yn www.valefoodtrail.com. Gallwch hefyd gofrestru i gael y cylchlythyr i gael hysbysiadau a diweddariadau pellach ac ymuno â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol trwy ddefnyddio #ValeFoodTrail.