LLWYBR BWYD Y FRO 2024: TREFNWYR YN DATHLU LLWYDDIANT YSGUBOL
ROEDD YR ŴYL DEG DIWRNOD YN DDATHLIAD O
FWYD, FFERMIO A CHYNALIADWYEDD LLEOL YM MRO MORGANNWG.
Gwnaeth yr ail
Lwybr Bwyd y Fro blynyddol, a gynhaliwyd rhwng 26 Mai a 4 Mehefin 2024, ddod i ben gyda llwyddiant ysgubol, gan ddod â tua 1000 o ymwelwyr a phobl leol ynghyd i archwilio a dathlu treftadaeth gastronomig gyfoethog ac arferion ffermio cynaliadwy Bro Morgannwg.
Uchafbwyntiau’r Digwyddiad a Chasgliad yr Ŵyl:
Roedd yr ŵyl yn cynnwys mwy na 30 o fusnesau lleol, gan gynnig 46 o ddigwyddiadau amrywiol a oedd yn arddangos y gorau o fwyd a chynaliadwyedd lleol. Roedd yr uchafbwyntiau allweddol yn cynnwys:
- Gŵyl Bwyd a Diod y Bont-faen: Cynhaliwyd y digwyddiad hwn ar 26 a 27 Mai yng Ngerddi’r Hen Neuadd yn y Bont-faen, ac roedd y digwyddiad teuluol yn cynnwys gweithgareddau rhyngweithiol, arddangosiadau byw a sesiynau blasu, gan ddenu dros 300 o fynychwyr a oedd yn awyddus i ddysgu am arferion bwyd cynaliadwy.
- Gweithdai Garddio a Chynaliadwyedd: Mwynhaodd y cyfranogwyr yr ‘Arddangosiad Garddio Dim Palu’ yn Ali’s Edibles, arddangosiad tyfu perlysiau yng Nghanolfan Arddio Pugh’s, taith fferm arddwriaethol yn Bonvilston Edge, a’r ‘Daith Gardd Goedwig’ a ‘Sêl Planhigion’ gan Ediculture yn Coed Hills. Gwerthfawrogwyd y sesiynau hyn yn fawr am eu mewnwelediadau ymarferol i ddulliau tyfu ecogyfeillgar.
- Profiadau Diod: Gwnaeth teithiau o winllannoedd Saint Hilari, Tair Gafr a Glyndŵr, paru gwin a chaws Cymreig yn Barri Island Spirits Co, a blasu cwrw crefft yn Craft Republic ddenu torfeydd sylweddol. Roedd y teithiau rhostio yn The Welsh Coffee Co a’r teithiau planhigfeydd yn Peterston Tea hefyd yn boblogaidd, gan gynnig gwybodaeth ddofn am gynnyrch lleol.
- Digwyddiadau Diwylliannol: Sbardunodd y ffilm ‘Six Inches of Soil’ gan Gyfeillion Coed Pencoedtre a Phartneriaeth Natur Leol y Fro, ynghyd â’r arddangosfa gelf ‘Lle i Dyfu’ gan CBC Urban Vertical, drafodaethau ystyrlon ar fwyd, cynaliadwyedd ac ymgysylltu â’r gymuned.
- Gweithgareddau unigryw: O wneud sebon llaeth gafr yn Garlic Meadow i fwynhau rhost mochyn yn Forage Farm, dysgu am doriadau stêc yn Fferm Rosedew, a mynd i chwilota dan arweiniad Slade Farm – roedd y digwyddiadau’n cynnig rhywbeth i bawb. Amlygodd y gweithgareddau hyn ddiwylliant bwyd amrywiol a bywiog y Fro.
Myfyriodd Louise Denham, Cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn
Bwyd y Fro ac un o drefnwyr yr ŵyl, ar y llwyddiant: “
Mae’r ymateb i Lwybr Bwyd y Fro eleni wedi bod yn anhygoel. Gwelsom gynnydd sylweddol mewn cyfranogiad, gydag amcangyfrif o 1,000 o ymwelwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau. Gwnaeth Llwybr Bwyd y Fro 2024 nid yn unig ddathlu bwyd lleol ond hefyd gryfhau ymrwymiad y gymuned i gynaliadwyedd. Gobeithiwn y bydd pawb a ddaeth yn gadael gyda mwy o werthfawrogiad o gynnyrch lleol ac arferion cynaliadwy, gan atgyfnerthu enw da’r Fro fel canolbwynt ar gyfer byw’n eco-gyfeillgar a bwyd blasus.”
Mae llwyddiant y digwyddiad eleni wedi gosod sylfaen gadarn ar gyfer gwyliau yn y dyfodol. Mae cynlluniau eisoes ar y gweill ar gyfer Llwybr Bwyd y Fro 2025, gan ganolbwyntio ar ehangu’r ystod o weithgareddau ac ymgysylltu â hyd yn oed mwy o fusnesau ac ymwelwyr lleol.
Am fwy o wybodaeth a diweddariadau ar ddigwyddiad y flwyddyn nesaf, cofrestrwch ar gyfer y cylchlythyr yn
https://www.valefoodtrail.com.
Ynglŷn â Llwybr Bwyd y Fro
Mae Llwybr Bwyd y Fro yn cael ei drefnu gan bartneriaid o Bwyd y Fro, Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Bro Morgannwg; Ymweld â’r Fro; Cyngor Bro Morgannwg; yn ogystal â rhaglen cymorth busnes Cywain Menter a Busnes. Mae’r digwyddiad yn cael ei ariannu gan lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.