BYDD GŴYL BWYD CYNALIADWY YN DYCHWELYD 26 MAI – 4 MEHEFIN 2024
CEISIADAU NAWR AR AGOR I FUSNESAU A CHYNHYRCHWYR Y FRO BWRIADU CYMRYD RHAN? – DYDDIAD CAU 31 MAWRTH
Yn dilyn y digwyddiad cyntaf llwyddiannus y llynedd, bydd ‘Llwybr Bwyd y Fro’ yn dychwelyd yn ddiweddarach eleni, rhwng 26 Mai a 4 Mehefin 2024. Mae’r ŵyl fwyd aml-leoliad a fydd yn para pythefnos yn cynnig ‘archwiliad a dathliad o fwyd, ffermio a chynaliadwyedd ym Mro Morgannwg’. Mae trefnwyr yr ŵyl bellach yn gwahodd ceisiadau gan fusnesau, cynhyrchwyr a sefydliadau a allai fod am gynnal digwyddiad fel rhan o’r ŵyl; mae cyfranogiad yn hollol rad ac am ddim, a bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn elwa o fwy o welededd trwy farchnata’r ŵyl, a chyfle i gyrraedd cwsmeriaid newydd o’r Fro a thu hwnt. Y llynedd, cynigiodd mwy na 30 o fusnesau lleol raglen amrywiol o ddigwyddiadau a gynlluniwyd i ddod â phobl yn nes at gynhyrchwyr bwyd a busnesau yn yr ardal leol. Teithiodd mwy na 500 o ymwelwyr a phobl leol o amgylch y rhanbarth, gan ymweld yn annibynnol â chynhyrchwyr, bwytai a busnesau eraill ar gyfer digwyddiadau a oedd yn cynnwys teithiau fferm, gweithdai coginio, digwyddiadau blasu, arddangosfeydd arbennig, arddangosiadau byw a mwy. Yn y Barri, cynigiodd busnesau bwyd lleol fel Awesome Wales, Monty a Vitos Diner a Food For Thought Delicatessen lwybr blasu bwydydd, ac yn Llanilltud Fawr, gwnaeth taith o’r ardd farchnad gydag Ali’s Edibles egluro’n syml y broses o dyfu ‘dim cloddio’ cynaliadwy. Ym Mhenarth, archwiliodd arddangosfa ficrowyrddion gan Urban Vertical CIC y cysylltiadau rhwng bwyd, celf a dylunio, ac yn y Bont-faen, esboniodd taith berllan ym Mherllannau Llanfleiddan sut mae eu dull dim chwistrelliad o fudd i fioamrywiaeth leol. Yng ngorllewin y Fro, aeth saffari fferm adeg y machlud â theuluoedd ar daith o amgylch Fferm Slade i weld y doreth o fywyd gwyllt sy’n ffynnu mewn system ffermio organig, ac yn dilyn arddangosfa odro ar Fferm Laeth Organig Penuchadre, cafwyd cyfle i roi cynnig ar eu hysgytlaeth blasus. Mewn mannau eraill yn y Fro, rhoddodd taith planhigfa de gipolwg i ymwelwyr ar fyd y brag Cymreig yn Peterston Tea. Mae Llwybr Bwyd y Fro 2024 yn cael ei drefnu unwaith eto gan bartneriaid o Bwyd y Fro, Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Bro Morgannwg; Ymweld â’r Fro; Cyngor Bro Morgannwg; yn ogystal â rhaglen cymorth busnes Menter a Busnes, Cywain. Mae wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Louise Denham yw cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn Bwyd y Fro, ac mae’n un o gydlynwyr yr ŵyl. Dywed: “Rydym wrth ein bodd yn dod â Llwybr Bwyd y Fro yn ei ôl eleni – ac edrychwn ymlaen yn fawr at weld pa fath o ddigwyddiadau y mae ein busnesau a’n cynhyrchwyr lleol yn awyddus i’w cynnal y tro hwn. Boed yn weithdai gwneud bara, eplesu, neu biclo; teithiau fferm a gweithgareddau Dewis Eich Hun; bwydlenni arbennig yn cynnwys cynhwysion lleol, tymhorol; sesiynau blasu a theithiau o amgylch gwinllannoedd/perllannau lleol neu arddangosiadau cadw gwenyn a hwsmonaeth anifeiliaid – neu unrhyw beth arall sy’n ymwneud â bwyd cynaliadwy – rydym am glywed amdano!” Mae rhagor o fanylion am sut i wneud cais i gynnal digwyddiad fel rhan o Lwybr Bwyd y Fro 2024 ar gael ar www.valefoodtrail.com. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Mawrth 2024. Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer y cylchlythyr i dderbyn hysbysiadau a diweddariadau pellach ac ymuno â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol trwy ddefnyddio’r hashnod #LlwybrBwydYFro / #ValeFoodTrail.