Ymunwch â ni ar gyfer ein Cyfarfod Rhwydwaith mis Chwefror ar gyfer y rheini sy’n dwlu ar fwyd!  

Dewch i’n cyfarfod cyntaf o’r flwyddyn ar 20 Chwefror ym Mhenarth.

Y mis hwn byddwn yn cyfarfod yng Nghanolfan Gymunedol Bellevue ar 20 Chwefror, 6.15pm-8.30pm.
Ymunwch â ni i ddathlu diwedd y gaeaf, yn ogystal â chysylltu â phobl eraill o’r un anian yn y Fro a rhannu eich meddyliau ar sut y gallwn ddatblygu mudiad bwyd da yn y Fro.

Yn benodol, byddwn yn cynnal gweithdai ar Strategaeth Fwyd ddrafft y Fro hyd yma, ac yn gofyn i’r rheini sy’n bresennol fynd â ‘phen marcio coch’ i’n syniadau hyd yma a rhoi gwybod i ni beth arall sydd angen ei gynnwys.

Bydd gennym ddiweddariadau cyffrous hefyd ar y gwaith Astudiaeth Ddichonoldeb Ceginau Cymunedol, a rhywfaint o waith Mapio Tir y Fro.

Mae Canolfan Gymunedol Bellevue yn ddeg munud ar droed o orsaf drenau Penarth. Mae safleoedd ar gyfer parcio beiciau ar gael y tu allan.

Cysylltwch â ni os hoffech chi drafod unrhyw beth yn benodol ar y diwrnod.

Archebwych am ddim ar Eventbrite yma.