Mae cymunedau’r Fro yn datblygu’r mudiad bwyd da lleol yng Ngŵyl Bwyd y Fro
Mae cymunedau ar draws y Fro yn cymryd yr awenau eleni yn ail Ŵyl Bwyd y Fro. Trefnir yr ŵyl gan Bwyd y Fro, sy’n rhan o rwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy – rhaglen bartneriaeth dan arweiniad y Soil Association, Food Matters a Sustain: y gynghrair ar gyfer gwell bwyd a ffermio. Cynhelir Gŵyl Bwyd y Fro eleni rhwng Mawrth 17 – 27 a bydd yn cynnwys cyfres o weithgareddau wedi eu dylunio i wahodd mwy o bobl i’r mudiad bwyd da yn y Fro, tra’n amlygu cyfleoedd i wella’r system fwyd leol. Mae’r ŵyl wedi derbyn cyllid drwy’r Tîm Iechyd Cyhoeddus Caerdydd a’r Fro ac y Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes. Rhaglen Gŵyl Bwyd y Fro Ymunwch â Phlannu Llanilltud a Mwy ar Gomin Llanilltud ar gyfer eu Caffi Sgwrsio a Chyfnewidfa Hadau! Cynhelir y digwyddiad hwn ar y cyd â CF61 FoodShare. Bydd Amanda, sef ‘Microgroser’ Penarth, yn cyflwyno gweithdy microwyrdd arbennig gyda disgyblion Ysgol Gynradd Victoria. Ymunwch â Chymuned Dyfu Penarth a Chyfeillion Parc Fictoria ar gyfer cyfnewidfa hadau a phlanhigion yn Lesser Hall, Sgwâr Fictoria. https://foodvale.org/wp-content/uploads/2022/03/21-27-March-Mawrth-2022-Online-and-across-the-Vale-Ar-lein-ac-ar-draws-y-Fro.png Ymunwch â Bethan wrth iddi fynd â chi ar daith gerdded i gyflwyno chwilota ym Mharc Romilly, y Barri. Cofrestrwch yma. Rydym yn gwahodd Elizabeth Westaway o Growing Real Food For Nutrition CIC (GRFFN) fydd yn siarad am eu hymchwil arloesol i’r ffordd y gall arferion tyfu adnewyddol greu cynnyrch sydd yn cynnwys mwy o faeth. Cofrestrwch am ddim yma. I nodi Cyhydnos y Gwanwyn, ymunwch â Stephen o Ediculture am daith o’r gerddi cymunedol yn Coed Hills, yn cynnwys trosolwg o’r ardd lysiau, y berllan, gardd y goedwig a’r ardd farchnad. Bydd hefyd yn dangos sut maent yn rheoli’r coetir ac yn plannu coetir newydd. Cofrestwch yma. Ar ddydd Iau, byddwn yn ôl yn Coed Hills am daith chwilota. Yn ogystal â’r danadl a’r garlleg gwyllt arferol, bydd Stephen yn cyflwyno pobl i amrywiaeth eang o blanhigion gwyllt a lluosflwydd anarferol y gellir eu chwilota yr adeg hon o’r flwyddyn. Byddwch yn barod am flasau gwahanol iawn! Cofrestrwch yma Yn dilyn gwaith caled y disgyblion yn plannu microwyrddlysiau ar ddechrau’r ŵyl gyda’r ‘Microgroser’, byddant bellach yn barod i’w cynaeafu ar ddiwedd yr wythnos yn y Diwrnod Cynaeafu Microwyrdd i’r Teulu. Ac o’r diwedd, ymunwch ag Awesome.Wales ar gyfer Cyfnewidfa Hadau Fawr y Barri a’r Bont-faen! Bydd hwn yn gyfle gwych i gyfarfod â garddwyr lleol eraill a pherchnogion rhandiroedd i siarad am bopeth gwyrdd ac yn ymwneud â thyfu a chyfnewid hadau. Os ydych yn chwilio am rywbeth arbennig, bydd cyfle hefyd i brynu hadau hyperleol o Ediculture Organig Coed Hills. Gallwch weld y rhaglen lawn ar ein gwefan ar https://foodvale.org/food-vale-festival/ I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gyhoeddiadau ar gyfer Gŵyl Bwyd y Fro, ymunwch â’n digwyddiad Facebook, neu dilynwch #FoodValeFestMae cymunedau’r Fro yn datblygu’r mudiad bwyd da lleol yng Ngŵyl Bwyd y Fro