- Awgrymiadau ymarferol ar sut i roi cegin a rennir ar waith
- Enghreifftiau bywyd go iawn o sut y gall ceginau cymunedol weithio
- Canllawiau ar hylendid bwyd, hyfforddiant staff/gwirfoddolwyr, ac ystyriaethau cyfreithiol
- Cyfeirio at gymorth pellach a chyngor rheoleiddiol swyddogol
Lansio Pecyn Cymorth Ceginau Cymunedol: Adnodd newydd ar gyfer mannau coginio a rennir yn y Fro
Lansio Pecyn Cymorth Ceginau Cymunedol: Adnodd newydd ar gyfer mannau coginio a rennir yn y Fro
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi lansiad y Canllaw Arfer Da a Phecyn Cymorth Cymunedol ar gyfer Ceginau Cymunedol a Rennir – canllaw newydd sbon sydd wedi’i gynllunio i gefnogi sefydliadau sy’n ystyried sefydlu neu weithredu o gegin gymunedol a rennir.
Mae ceginau cymunedol – a elwir weithiau’n geginau a rennir – yn fannau croesawgar lle mae pobl yn dod at ei gilydd i goginio, dysgu sgiliau newydd, a rhannu bwyd. Gallant ddod â chymdogion at ei gilydd, lleihau gwastraff bwyd, hybu bwyta’n iachach, a gwneud defnydd da o gynnyrch dros ben neu leol.
Gyda chymorth cyllid o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, comisiynodd Bwyd y Fro Per Consulting ar y cyd â Lafan Consulting i archwilio’r potensial ar gyfer mwy o geginau cymunedol yn yr ardal. Trwy gymysgedd o ymchwil wrth y ddesg, sgyrsiau yn y gymuned ac adolygiad o gyfleusterau presennol yn Y Barri, Penarth a Llanilltud Fawr, fe wnaethom ddysgu llawer am y diddordeb lleol, yr heriau a’r cyfleoedd.
Mae’r Pecyn Cymorth hwn yn dod â’r hyn a ddysgwyd ynghyd mewn canllaw hawdd ei ddefnyddio i helpu grwpiau i ddechrau arni. P’un a ydych chi’n meddwl am sefydlu gofod lle gall pobl ddatblygu hyder a sgiliau coginio, defnyddio bwyd dros ben, neu hyrwyddo cynnyrch lleol, mae’r pecyn cymorth hwn yn cynnig: