Er mwyn i’n cymunedau gael y sgiliau a’r offer sydd eu hangen arnynt ar gyfer diwylliant bwyd mwy gwydn, credwn fod angen lleoedd gwell arnom i bobl goginio, dysgu a rhannu prydau bwyd gyda’i gilydd.
Yn 2025, fe wnaethon ni ddatblygu’r Pecyn Cymorth Ceginau Cymunedol i roi man cychwyn ymarferol i grwpiau ar gyfer creu neu redeg mannau coginio ar y cyd yn y Fro. Cafodd y pecyn cymorth ei ddatblygu drwy ymchwil ac ymgynghori lleol, ac mae’n dwyn ynghyd yr hyn a ddysgwyd am sut gall ceginau cymunedol feithrin sgiliau coginio, gwneud gwell defnydd o fwyd dros ben a hyrwyddo bwyta’n iach, yn lleol. Nid llyfr rheolau mohono, yn hytrach mae’n cynnig camau clir, ystyriaethau allweddol a dolenni i arweiniad pellach er mwyn helpu grwpiau i ystyried syniadau, cynllunio gweithgareddau a datblygu prosiectau ceginau ar y cyd yn hyderus.
