Lansio Map Digidol ac Adroddiad Newydd ar gyfer Tyfu Bwyd Cymunedol yn y Fro

Mae adroddiad a map digidol newydd wedi cael eu lansio yn dilyn astudiaeth sy’n archwilio’r anghenion lleol sy’n gysylltiedig â thyfu bwyd cymunedol yn y Fro. Gyda chefnogaeth gan Gyllid Ffyniant Gyffredin, ym mis Chwefror 2025, comisiynodd Bwyd y Fro Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol i fapio prosiectau tyfu bwyd cymunedol presennol ym Mro Morgannwg, archwilio’r prif rwystrau i gymryd rhan/mynediad i brosiectau tyfu bwyd cymunedol a’r anghenion ychwanegol a allai fodoli ar gyfer tyfu bwyd cymunedol ledled y Fro. Cafodd yr astudiaeth ei lywio gan ymgysylltu â thyfwyr cymunedol, cymdeithasau rhandiroedd, perllannau cymunedol a Chynghorau Tref a Chymuned lleol, yn ogystal â gweithdy ‘Tyfu Cymunedol’ a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2025 a ddaeth â 30 o gynrychiolwyr ynghyd i drafod dyfodol tyfu bwyd cymunedol ym Mro Morgannwg. Dyma rai o brif ganfyddiadau’r adroddiad:
  • Nodwyd 54 o fannau tyfu ledled y Fro
  • Mae tua 75000 metr sgwâr yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd ar gyfer tyfu cymunedol
  • Mae rhestrau aros rhandiroedd yn parhau i fod yn hir iawn
  • Ar draws y Fro mae bylchau clir yn y ddarpariaeth rhandiroedd
  • Mae mannau tyfu cymunedol yn ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau o dyfu i sesiynau ar gyfer grwpiau targed penodol (e.e. oedolion ag anableddau, myfyrwyr coleg), dosbarthu cynnyrch a therapi garddwriaethol.
  • Mae rhwystrau a heriau cyffredin yn cynnwys y rhai sy’n gysylltiedig â rheolaeth (e.e. prydlesi/trwyddedau, llywodraethu a gweinyddu); recriwtio a chadw gwirfoddolwyr; mynediad i’r tir; cyllid ar gyfer creu a rheoli safleoedd/lleiniau; ac ymwybyddiaeth o dyfu cymunedol.
Nod y map digidol cysylltiedig yw helpu i gyfeirio pobl at fannau tyfu cymunedol presennol. Gellir cyrchu’r ddau adnodd ar ein tudalen Tyfu Cymunedol newydd ar y we. Mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd â Strategaeth Bwyd newydd y Fro 2025-2030 sy’n cynnwys y canlyniad a ddymunir sef y ‘Bydd pobl yn y Fro yn cael mwy o gyfleoedd i dyfu eu ffrwythau a’u llysiau eu hunain, coginio a bwyta gyda’i gilydd‘, yn ogystal â chyfrannu at Gynllun Her Hinsawdd ‘Prosiect Sero’ 2021-2030 Cyngor Bro Morgannwg, sy’n ymrwymo i “weithio gyda chymunedau lleol i gynyddu nifer y rhandiroedd a’r gerddi cymunedol”. Mae Bwyd y Fro bellach yn gobeithio gweithio gyda phartneriaid allweddol er mwyn nodi ffyrdd y gellir mynd i’r afael â’r rhwystrau a’r heriau a nodwyd. Os ydych chi’n gysylltiedig â man tyfu bwyd cymunedol presennol yr hoffech iddo gael ei gynnwys ar y map, cysylltwch â ni.