Dechrau Coginio yn Llanilltud Fawr!
O fis Mawrth i fis Mai 2025, gwnaeth 7 cyfranogwr, yn cynnwys menywod o’r Wcráin sydd wedi setlo yn ddiweddar yn Llanilltud Fawr, gymryd rhan yn ein cwrs ‘Dechrau Coginio’ yn CF61 — gan ddysgu coginio prydau iach Cymreig a Phrydeinig, a rhannu eu ffefrynnau eu hunain hefyd.
Mae ‘Dechrau Coginio’ yn gwrs ymarferol sy’n dysgu sgiliau coginio, ryseitiau iach, a hanfodion bwyta cytbwys mewn amgylchedd hwyliog a chefnogol. Dros 8 sesiwn (a dathliad ar y diwedd!), gwnaeth y grŵp bopeth o selsig Morgannwg a pice ar y maen i grempogau llysiau a chacennau caws
Wedi’i gyflwyno gan Bwyd y Fro a Thîm Deieteg Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a’r Fro, gyda chymorth cyfieithu, roedd y cwrs yn meithrin sgiliau, ryseitiau a chysylltiadau newydd – a’r cyfan yn rhan o Brosiect Bwyd Llanilltud, a ariennir gan y Loteri Genedlaethol ac a achredir gan Agored Cymru
Dysgwch fwy am gyrsiau Dechrau Coginio yn y dyfodol yma