Heddiw (dydd Mercher, 15 Mehefin), cyhoeddwyd bod Bro Morgannwg wedi ennill statws Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, sy’n golygu mai dyma’r ail le yn unig yng Nghymru i gael yr anrhydedd.

Mae Bro Morgannwg, ynghyd â Bury, Islington, Swydd Gaerlŷr a Swydd Lincoln Fwyaf wedi derbyn statws Efydd, yn cydnabod gwaith arloesol i sir yn hyrwyddo iechyd a bwyd cynaliadwy. Tynnodd cais y Fro ar gyfer y wobr sylw at achlysur lansio Cynllun Gweithredu Bwyd Cynaliadwy yn ddiweddar, ‘Prosiect Sero’, sef Cynllun Her Newid Hinsawdd y cyngor, y prosiect partneriaeth arloesol Mynediad at Fwyd sydd yn cael ei roi ar brawf yn Llanilltud Fawr a gweithgareddau sydd yn rhan o’r mudiad bwyd da, fel Gŵyl Bwyd y Fro yn ddiweddar.

Cydlynir y gwaith ym Mro Morgannwg gan Bwyd y Fro – partneriaeth o unigolion, grwpiau cymunedol, sefydliadau a busnesau ymrwymedig yn cydweithio i ddatblygu system iach a ffyniannus o fwyd cynaliadwy yn y Fro.

Mae Bwyd y Fro, a gynhelir gan Dîm Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a’r Fro, bellach yn cynnwys dros 60 o unigolion ar draws 30 o sefydliadau ac mae ganddo grŵp llywio sydd yn cynnwys amrywiaeth o aelodau, yn cynnwys Cyngor Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg a Thyddynwyr Morgannwg.

Trwy’r rhwydwaith hwn o bartneriaid ymroddedig, mae Bwyd y Fro yn sbarduno newid ar lefel sir gyfan ac yn gweithio i fynd i’r afael â rhai o faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mwyaf yr oes hon.

Prif feysydd blaenoriaeth Bwyd y Fro ar gyfer mudiad bwyd da ym Mro Morgannwg yw:

  1. Pryd o fwyd da i bawb, bob dydd
  2. Busnesau bwyd ffyniannus lleol sydd yn cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi
  3. Meddwl yn fyd-eang, bwyta’n lleol

Mae Louise Denham, cydlynydd Bwyd y Fro ac awdur y cais Efydd, wrth ei bodd bod Bro Morgannwg wedi cael statws Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ac mae’n ddiolchgar i unigolion, busnesau a sefydliadau ar hyd a lled y sir am gael rôl mor weithredol yn llwyddiant y bartneriaeth fwyd.

“Mae hwn yn rhywbeth y gallwn i gyd ei ddathlu. Mae’r diolch i bob un ohonoch ar draws y Fro – o grwpiau cymunedol sydd wedi meithrin gerddi bwytadwy hardd, i’r busnesau lleol sy’n dewis rhoi bwyd iach a chynaliadwy ar eich bwydlenni a’r ffermwyr sy’n rhoi blaenoriaeth i arferion sydd yn dda i ni ac i’r blaned. Mae ein cyflawniad yn rhoi neges glir – rydym yn benderfynol o ddatblygu system fwyd leol gadarn yma yn y Fro, ac yn sicr nid dyma diwedd y daith!”

Cyflawnodd Caerdydd, aelod sylfaenol o rwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, statws Efydd yn 2015, cyn mynd ymlaen i gyflawni statws Arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn 2021. Gall Bwyd y Fro, a ddaeth yn aelod o Leoedd Bwyd Cynaliadwy yn 2020, bellach ddathlu statws Efydd y sir, gan ymuno â Chaerdydd wrth i’r ddwy sir arwain y ffordd yng Nghymru o ran partneriaethau bwyd lleol. Yn ddiweddar, daeth pump Lle Bwyd Cynaliadwy pellach yng Nghymru – yn cynnwys Sir Fynwy, Rhondda Cynon Taf, Blaenau Gwent, Gogledd Powys a Sir Gaerfyrddin – yn aelodau, gyda’r mudiad yn parhau i ennill momentwm ar draws y wlad.

Dywedodd Leon Ballin, Rheolwr Rhaglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy:

“Mae Bro Morgannwg wedi dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd pobl greadigol ac ymrwymedig yn cydweithio i wneud bwyd iach a chynaliadwy yn nodwedd benodol o’r lle y maent yn byw ynddo. Er bod llawer i’w wneud o hyd a llawer o heriau i’w goresgyn, mae’r Fro wedi helpu i osod meincnod i’r 80+ o aelodau Rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn y DU ei ddilyn.  Edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod i drawsnewid diwylliant bwyd a system fwyd y Fro er gwell.”

Mae Cyngor Sir Bro Morgannwg wedi bod yn allweddol yn sefydlu partneriaeth fwyd y Fro ac mae wrth ei fodd bod ymdrechion ac uchelgais y sir wedi cael eu cydnabod.

Dywedodd Bronwen Brooks, Aelod o Gabinet Cyngor Bro Morgannwg ar gyfer Lleoedd Cynaliadwy: “Rwyf wrth fy modd bod Bro Morgannwg wedi derbyn y wobr haeddiannol hon, un sy’n cydnabod ymdrechion cymaint o bobl i hyrwyddo bwyd iach a chynaliadwy.

“Mae busnesau lleol, grwpiau cymunedol, gwirfoddolwyr, y Cyngor ac amrywiaeth o sefydliadau eraill wedi helpu i annog y sgwrs am yr hyn yr ydym yn ei fwyta ac effaith y dewisiadau hynny ar ein llesiant ac ar yr amgylchedd.

“Mae menter Cynllun Prosiect Sero y Cyngor, gyda’r nod o wneud yr Awdurdod yn garbon niwtral erbyn 2030, yn pwysleisio’r angen i wneud ein systemau bwyd yn ganolog i’n gwaith yn mynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae hwn yn faes lle gall pawb gydweithio a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.”

Dywed Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, sydd yn cynnal Bwyd y Fro:

“Mae’n gyflawniad rhagorol i Fro Morgannwg dderbyn anrhydedd mor flaenllaw, sef statws Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy. Mae’r wobr hon yn glod i Bwyd y Fro, ac unigolion a phartneriaid sydd wedi bod yn ymdrechu i ddatblygu’r mudiad bwyd da ym Mro Morgannwg. Bydd darparu dewisiadau bwyd lleol, cynaliadwy ac iach nid yn unig yn creu buddion iechyd a llesiant niferus, ond bydd hefyd yn cyfrannu at blaned iachach, gan gefnogi pobl nawr ac am genedlaethau i ddod.”

Lleoedd Bwyd Cynaliadwy (Dinasoedd Bwyd Cynaliadwy yn flaenorol) yw un o’r mudiadau cymdeithasol sydd yn tyfu gyflymaf yn y DU. Mae ei rwydwaith yn dod â phartneriaethau bwyd arloesol o drefi, dinasoedd, bwrdeistrefi a siroedd ynghyd ar draws y DU, sydd yn sbarduno arloesi ac arfer gorau ar bob agwedd ar fwyd iach a chynaliadwy.

Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn bartner cenedlaethol i Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yng Nghymru a’i uchelgais yw gweld partneriaeth fwyd ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, gan greu rhwydwaith fyddai’n creu’r sylfaen ar gyfer datblygu’r weledigaeth, y seilwaith a’r gweithredoedd sydd eu hangen i wneud system fwyd Cymru’n addas ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol.

Ar ddechrau’r tymor hwn o’r Senedd, gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad i’w Rhaglen Lywodraethu (2021-2026) y byddai’n datblygu Strategaeth Bwyd Cymunedol i annog cynhyrchu a chyflenwi bwyd â tharddiad lleol yng Nghymru.  Cred Synnwyr Bwyd Cymru fod gan Strategaeth Bwyd Cynaliadwy y potensial i greu system fwyd fwy cydnerth, amrywiol a chysylltiedig ar gyfer cymunedau ledled Cymru – gyda phartneriaethau bwyd lleol yn gallu chwarae rôl hanfodol

 “Mae gan ymagwedd yn seiliedig ar le, fel Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, y gallu i gefnogi cynhyrchu bwyd cynaliadwy yn ogystal â datblygu cadwyni cyflenwi amaeth-ecolegol; i gynyddu faint o fwyd lleol sy’n cael ei weini ar blât y cyhoedd ac i annog dinasyddiaeth fwyd a chyfranogiad mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru,” dywed Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen yn Synnwyr Bwyd Cymru.

“Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn cefnogi saith aelod presennol Cymru – Bwyd CaerdyddBwyd y Fro,  Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy, Bwyd RhCT, Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent, Partneriaeth Bwyd Gogledd Powys a Bwyd Sir Gâr Food yn Sir Gaerfyrddin,” aeth ymlaen.  “Rydym hefyd yn cefnogi prosiect newydd yn Nhorfaen wrth i’r sir hon barhau i ddatblygu ei model partneriaeth a gweithio tuag at fod yn aelod llawn o Rwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy y DU.

“Rwyf mor falch bod Bro Morgannwg wedi cael Statws Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, sy’n golygu mai dim ond yr ail le yng Nghymru ydyw i gael yr anrhydedd pwysig hwn. Mae’r wobr yn dangos effaith gadarnhaol pobl, cymunedau, sefydliadau a busnesau sydd yn cydweithio i sbarduno newid,” ychwanega Katie.

Gobaith Synnwyr Bwyd Cymru yw y bydd llwyddiant Bro Morgannwg yn annog ardaloedd eraill yng Nghymru i ymuno a helpu i arwain y ffordd yn sefydlu a thyfu seilwaith yn seiliedig ar le, gan gyfrannu at ddatblygiad ‘mudiad bwyd da’ a strategaethau bwyd cymunedol ehangach fydd o fudd i iechyd, cynaliadwyedd a ffyniant cymdeithasol cymunedau ar hyd a lled Cymru.