Credwn y dylai pawb gael mynediad at fwyd da mewn ffyrdd sy’n cefnogi urddas, iechyd a lles cymunedol. Mae Gweithgor Diffyg Diogeledd Bwyd y Fro yn dod â phartneriaid ynghyd i hwyluso cydweithio a dysgu ar y cyd a chryfhau atebion lleol i ddiffyg diogeledd bwyd.

Os hoffech chi fod yn rhan o’r grŵp, cysylltwch.

030425 – Cardiff And Vale – Cardiff, Wales, United Kingdom

Prosiect Bwyd Llanilltud Fawr

Mae ein gwaith presennol yn seiliedig ar y gwersi a ddysgwyd gan Brosiect Bwyd Llanilltud Fawr, sef cynllun peilot partneriaeth leol a fu’n edrych ar ffyrdd newydd o ymateb i ddiffyg diogeledd bwyd ar aelwydydd. Daeth y prosiect â sefydliadau cymunedol a gwasanaethau lleol ynghyd i ddeall anghenion lleol yn well, profi dulliau cydweithredol a chryfhau cysylltiadau rhwng cymorth bwyd, iechyd, a llesiant cymunedol ehangach.

Dangosodd y cynllun peilot pa mor werthfawr yw gweithio mewn partneriaeth, dysgu ar y cyd a gweithredu mewn dull mwy cydlynol wrth gynnig cymorth…

20221020_PT-FoodVale_014-scaled

I’W GADARNHAU

Gan dynnu ar yr hyn a ddysgwyd o’r prosiect yn Llanilltud Fawr, mae’r un dull o weithio mewn partneriaeth ac yn gydlynol yn cael ei roi ar waith i ddatblygu strategaeth ehangach, sirol sy’n canolbwyntio ar atal, cydweithio ac adeiladu systemau bwyd lleol gwydn sy’n mynd y tu hwnt i ymatebion tymor byr.

Mae hyn yn cael ei lansio gyda rhywfaint o waith i ystyried a allai modelau prynu bwyd mwy cydweithredol fod yn ymarferol, gan gynnig cyfle i ni wella ansawdd bwyd, iechyd a chynaliadwyedd, cryfhau cadwyni cyflenwi lleol a defnyddio cyllid cyhoeddus mor effeithiol â phosibl.