Rydyn ni’n cefnogi ac yn darparu amrywiaeth o brosiectau i helpu i sicrhau bod gan blant ysgol yn y Fro fwy o gyfleoedd i fwyta, tyfu a dysgu am fwyd da.

Easter-Egg-Pizza-

Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion

Mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn gynllun sy’n cael ei gydlynu gan Synnwyr Bwyd Cymru a’i nod yw cynnwys mwy o lysiau organig mewn prydau ysgol lleol. Mae Bro Morgannwg wedi cymryd rhan yn y cynllun ers 2024, ac mae tyfwyr lleol fel Celtic Roots Farm a Goldsland Farm yn tyfu llysiau ar gyfer y cynllun. Mae Bro Morgannwg wedi cymryd rhan yn y cynllun ers 2024, ac mae tyfwyr lleol fel Celtic Roots Farm a Goldsland Farm yn tyfu llysiau ar gyfer y cynllun.

231310047_4336097579762226_1230841256795942909_n

Sesiynau Bwyd a Natur i Ysgolion

Mae’r Sesiynau Bwyd a Natur yn adeiladu ar brosiect Llysiau Cymru ar gyfer Ysgolion drwy ddod â thyfwyr lleol i mewn i’r ysgolion i gynnal cyfres o sesiynau tyfu bwyd ymarferol sy’n gwella dealltwriaeth athrawon a phlant o natur, cynaliadwyedd a bwyta’n iach drwy’r weithred o dyfu bwyd.