Diddordeb yn cymryd rhan yn #YCinioMawr eleni? Rydym yn cynnig £150 i un grŵp Lwcus yn y Fro sydd eisiau cymryd rhan yn Y Cinio Mawr fis Mehefin.

Mae’r Cinio Mawr yn ymwneud â dathlu cysylltiadau cymunedol a dod â phobl ynghyd gan ddefnyddio pŵer bwyd.

Gall yr arian fynd tuag at logi lleoliad, costau bwyd neu adnoddau eraill. Gellir cynnal eich digwyddiad unrhyw bryd ym mis Mehefin. I ganfod mwy am gynnal eich Cinio Mawr eich hun, ac i gofrestru eich digwyddiad, cliciwch yma.

I gael cyfle i ennill £150 i gefnogi eich digwyddiad, ebostiwch Louise.Denham@wales.nhs.uk gyda chynllun bras o’ch Cinio Mawr.