Wedi colli Cyfarfod Bwyd yr Haf yn y Fro? Gallwch ddal i fyny yma! Ar 23 Awst, daeth dros 20 o fwydgarwyr ynghyd yng Nghanolfan Gymunedol y Rhws i gysylltu â’i gilydd a thrafod syniadau ar gyfer y system fwyd leol. Roedd y mynychwyr yn cynnwys garddwyr lleol, addysgwyr, tyfwyr, perchnogion busnes, gweithredwyr a mwy. Cynhaliwyd y digwyddiad gan Bwyd y Fro – partneriaeth bwyd cynaliadwy y Fro, sy’n ceisio datblygu system bwyd lleol iach a chynaliadwy. Cynhelir cyfarfodydd Bwyd y Fro unwaith bob 3 mis. Diben y cyfarfodydd yw gwneud lle i bobl a phrosiectau lleol gysylltu, yn ogystal â ffurfio llais cyfunol ar gyfer newid ehangach. Dechreuodd y noson gyda chyfle i bawb gyflwyno eu hunain, a chawsom ein syfrdanu gan lefel y profiad, yr angerdd a’r ymroddiad ymhlith y rhai oedd yn bresennol. Yna aeth Louise Denham – cydlynydd Bwyd y Fro – ymlaen i dynnu sylw at rai gweithgareddau allweddol yn y dyfodol, gan gynnwys datblygu Strategaeth Bwyd y Fro sy’n dechrau yr hydref hwn. Yn dilyn cyfarfod diwethaf Bwyd y Fro ym mis Mawrth, trafododd y grŵp ffyrdd y gallem fanteisio ar gyfleoedd ariannu presennol i wella’r system fwyd leol. Un o’r syniadau allweddol a drafodwyd oedd datblygu rhwydwaith o geginau cymunedol. Mae’r grŵp yn gobeithio datblygu’r syniad hwn ymhellach, a chyflwyno achos dros gynnal astudiaeth ddichonoldeb i archwilio:
  • Anghenion grwpiau cymunedol a busnesau lleol fyddai’n defnyddio’r ceginau
  • Enghreifftiau o fodelau Cegin Gymunedol o bob cwr o’r byd
  • Lleoliadau posibl ar gyfer ceginau cymunedol ym Mro Morgannwg – gan ystyried hygyrchedd a seilwaith presennol
  • Modelau llywodraethu a gweithredu addas
  • Sut y gellid gwneud y ceginau yn gynaliadwy yn ariannol
Dywedodd un oedd yn bresennol “mae angen doethineb pawb yn yr ystafell hon arnom i helpu i ddatblygu ein system fwyd leol”. Os oes gennych syniad, prosiect, digwyddiad neu ddiddordeb mewn bwyd da yr hoffech ei gyflwyno i gyfarfod nesaf Bwyd y Fro, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf. https://foodvale.org/wp-content/uploads/2023/08/IMG-20230824-WA0001-e1693324402215.jpghttps://foodvale.org/wp-content/uploads/2023/08/IMG_20230823_204055-scaled-e1693324346411.jpg