Top 10 places to buy local in the Vale this summer

One of the great pleasures of summer is to cook outside with friends and family, whether it is on the beach, at the campsite or out in the back garden. We’re lucky in the Vale to have a number of great places to buy your ingredients locally. Buying food locally and choosing seasonal produce is a great way to eat more sustainably and support the local economy. Plus, it tastes better too! From grilled mushrooms, melt-in-your-mouth potatoes and sweetcorn packed full of flavour, to succulent spicy chicken and sizzling sausages, there’s something for everyone. So if you’re cooking al fresco this summer, why not buy local and enjoy your food full of flavour.

1. Vale Farmers Market, Cowbridge 

Vale Farmer’s Market takes place every Saturday in Arthur John’s Car Park, Cowbridge, and is a treasure trove of local produce.  Stall holders include Vale-based Pwllywrach Farm (selling Welsh Angus beef and Welsh lamb), Windy Wick Bakery (for all your bread and pastry needs) and Tynycaia Farm (for free-range local eggs), as well as local producers Ty Siriol Pork (from their pure bred Welsh Pigs born and reared outdoors) and Veggie Confetti (microgreens and Oyster mushrooms) and many more. 

2. Slade Organic Farm shop, St Brides Major 

Slade Farm, based in St Brides Major, sells award-winning organic meat boxes, organic Welsh flour and organic veg bags. Their farm shop is open every Thursday and Saturday. You can find out more about how to buy from them through their website. 

3. Forage Farm shop, Cowbridge 

Forage Farm Shop & Kitchen is located on Penllyn Estate near Cowbridge.  Their shelves stock a bountiful supply of seasonal produce sourced locally (much of which grown and raised directly on the Estate itself), as well as a range of carefully selected, dry goods and drinks from local, artisan suppliers. Produce can be bought in-shop, or they also have an online shop and delivery service for orders over £30. 

4. The Farmer’s Pantry, Llantwit Major 

Farmer’s Pantry is Rosedew Farm’s shop in Llantwit Major, and stocks a variety of ethically and sustainably farmed meat. You can buy direct from their farm shop, or they also have an online shop where you can place your order. They deliver within 24 hours and accept orders from across South Wales. 

5. Windsor Fruit Stores, Penarth 

This independent fruit and veg shop, based in Penarth, also stocks a variety of other products such as local eggs and honey, dry foods like pasta, flour and rice (including gluten-free options), tinned goods., and some vegan and vegetarian options.  

6. Barratt’s Fine Meats, Rhoose 

Barratt’s is a great place to go for locally sourced meat. All of their beef and lamb is hand selected and locally produced, and since they buy directly off their producers all of their meat is traceable to the farm it came from. 

7. The Milk Hut, Penuchadre Organic Dairy farm, St Brides Major 

If you haven’t heard of The Milk Hut yet, where have you been? Based next to the Farmer’s Arms by St Brides Major, The Milk Hut is your source of local organic milk straight from Penuchadre Organic Dairy farm. Bring along a bottle to refill whenever you need (or buy a bottle from their vending machine to reuse)! 

8. Elwyn’s Farm  

Elwyn’s Farm consists of a number of fields across the Vale of Glamorgan growing grow veg sustainably in a way that benefits the environment and local wildlife. They offer a weekly Veg Bag delivered every Thursday, and their produce is also available at Forage Farm Shop (see no. 2 in this list) and in the Cowbridge Collective online shop (see end notes). 

9. Awesome Wales, Barry and Cowbridge 

Awesome.Wales have premises in both Barry and Cowbridge, and are the go-to place for zero-waste food shopping. They also stock a range of products from local producers, including jams, chutneys an relishes that will be the cherry on top of the cake for any barbeque.  

10. Cowbridge Food Collective, Online 

More and more people are shopping online for food, but you can still support local producers in the Vale by using the Cowbridge Food Collective online shop. The Food Collective brings together the best food makers and their produce in one easy to use website. Since the pandemic, this Collective has begun operating a completely contactless drive through collection, with all orders boxed and placed into the boot of customers’ cars. 

Y 10 prif le i brynu’n lleol yn y Fro yr haf hwn

Un o bleserau mawr yr haf yw coginio yn yr awyr agored gyda theulu a ffrindiau, p’un ai ar y traeth, wrth wersylla neu allan yn yr ardd gefn. Rydym yn lwcus yn y Fro bod gennym nifer o fannau gwych i brynu eich cynhwysion yn lleol. Mae prynu bwyd yn lleol a dewis cynnyrch tymhorol yn ffordd wych o fwyta’n fwy cynaliadwy a chefnogi’r economi leol. Ac mae’n blasu’n well hefyd! O fadarch wedi eu grilio, tatws sy’n toddi’n y geg ac india-corn yn llawn blas, i gyw iâr sbeislyd a selsig chwilboeth, mae rhywbeth i bawb. Felly os ydych yn coginio yn yr awyr agored yr haf hwn, beth am brynu’n lleol a mwynhau eich bwyd yn llawn blas.

1. Marchnad Ffermwyr y Fro, Y Bont-faen

Cynhelir Marchnad Ffermwyr y Fro bob dydd Sadwrn ym Maes Parcio Arthur John yn Y Bont-faen, ac mae’n drysorfa o gynnyrch lleol. Mae’r stondinau’n cynnwys Fferm Pwllywrach yn y Fro (sydd yn gwerthu cig eidion Angus Cymru a chig oen Cymru), Popty Windy Wick (ar gyfer eich holl anghenion bara a chrwst) a Fferm Tynycaia (ar gyfer wyau maes lleol), yn ogystal â’r cynhyrchwyr lleol Porc Tŷ Siriol (o’u Moch Cymreig pur wedi eu geni a’u magu yn yr awyr agored) a Veggie Confetti (micro-lysiau gwyrdd a Wystrys y Coed) a llawer mwy.

2. Siop Fferm Organig Slade, Saint-y-brid

Mae Fferm Slade, wedi ei lleoli yn Saint-y-brid, yn gwethu bocsys cig organig sydd wedi ennill gwobrau, blawd organig o Gymru a bagiau llysiau organig. Mae eu siop fferm ar agor bob dydd Iau a dydd Sadwrn. Gallwch ganfod mwy am brynu oddi wrthynt trwy eu gwefan.

3. Siop Fferm Forage, Y Bont-faen

Lleolir Siop a Chegin Fferm Forage ar Ystâd Penllyn ger Y Bont-faen. Mae ganddynt ddigonedd o gynnyrch tymhorol lleol (llawer ohono’n cael ei dyfu a’i fagu ar yr Ystâd ei hun), yn ogystal ag ystod o nwyddau sych a diodydd, wedi eu dewis yn ofalus, gan gyflenwyr medrus, lleol. Gellir prynu’r cynnyrch yn y siop, neu mae ganddynt hefyd siop ar-lein a gwasanaeth dosbarthu ar gyfer archebion dros £30.

4. Farmer’s Pantry, Llanilltud Fawr

Farmer’s Pantry yw siop Fferm Rosedew yn Llanilltud Fawr, ac mae’n cynnwys amrywiaeth o gig wedi ei ffermio’n foesegol ac yn gynaliadwy. Gallwch brynu’n uniongyrchol o siop y fferm, neu mae ganddynt hefyd siop ar-lein lle gallwch roi eich archeb. Maent yn dosbarthu o fewn 24 awr ac yn derbyn archebion ar draws De Cymru.

5. Siop Ffrwythau Windsor, Penarth

Mae’r siop ffrwythau a llysiau annibynnol yma, wedi ei lleoli ym Mhenarth, hefyd yn cynnwys amrywiaeth o gynnyrch eraill fel wyau a mêl lleol, bywydd sych fel pasta, blawd a reis (yn cynnwys dewisiadau heb glwten), nwyddau mewn tun a rhai dewisiadau fegan a llysieuol.

6. Cigoedd o’r Ansawdd Gorau gan Barratt’s, Y Rhws

Mae Barratt’s yn lle gwych i fynd am gig lleol. Mae eu holl gig eidion a’u cig oen yn cael eu dewis â llaw a’u cynhyrchu’n lleol, a chan eu bod yn prynu’n uniongyrchol oddi wrth eu cynhyrchwyr, gellir olrhain eu cig i gyd yn ôl i’r fferm lle’u magwyd.

7. The Milk Hut, Fferm Cynnyrch Llaeth Organig Penuchadre, Saint-y-brid

Os nad ydych wedi clywed am The Milk Hut eto, ble ydych chi wedi bod? Wedi ei leoli drws nesaf i’r Farmer’s Arms ger Saint-y-brid, The Milk Hut yw ffynhonnell llaeth organig lleol yn syth o Fferm Cynnyrch Llaeth Penuchadre. Dewch â photel i’w hail-lenwi pryd bynnag y bo angen (neu prynwch botel o’u peiriant i’w hailddefnyddio)! Perffaith ar gyfer

8. Fferm Elwyn

Mae Fferm Elwyn yn cynnwys nifer o gaeau ar draws Bro Morgannwg sydd yn tyfu llysiau yn gynaliadwy mewn ffordd sydd o fudd i’r amgylchedd a bywyd gwyllt lleol. Maent yn cynnig Bag Llysiau wythnosol sydd yn cael ei ddosbarthu bob dydd Iau, ac mae eu cynnyrch hefyd ar gael yn Siop Fferm Forage (gweler rhif 2 ar y rhestr hon) ac yn siop ar-lein Cowbridge Collective (gweler yr ôl-nodiadau).

9. Awesome Wales, y Barri a’r Bont-faen

Mae gan Awesome.Wales siop yn y Barri a’r Bont-faen, a dyma’r lle i fynd ar gyfer siopa bwyd di-wastraff. Maent hefyd yn cynnwys amrywiaeth o gynnyrch gan gynhyrchwyr lleol, yn cynnwys jam, siytni a sawsiau fydd yn berffaith ar gyfer unrhyw farbeciw.

10. Cowbridge Food Collective, Ar-lein

Mae mwy a mwy o bobl yn siopa ar-lein am fwyd, ond gallwch gefnogi cynhyrchwyr lleol yn y Fro o hyd trwy ddefnyddio siop ar-lein Cowbridge Food Collective. Mae’r Gydweithfa Fwyd yn dod â’r gwneuthurwyr bwyd gorau a’u cynnyrch ynghyd mewn un gwefan hawdd i’w defnyddio. Ers y pandemig, mae’r Gydweithfa hon wedi dechrau gweithredu casgliadau gyrru trwodd cwbl ddigyswllt, gydag archebion yn cael eu rhoi mewn bocsys a’u rhoi yng nghist ceir cwsmeriaid.