Mae parseli bwyd yn cael eu dosbarthu ar sail ad hoc yn seiliedig ar geisiadau gan unigolion. Does dim ‘banc bwyd’ fel y cyfryw, ond mae rhoddion bwyd yn cael eu casglu o Morrisons yn y Barri yn wythnosol ac yn cael eu trosglwyddo i Eglwys y Tabernacl (Pantri’r Pharoaid). Adeg y Nadolig, mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn cynnig bwyd a mwy fel rhan o’i hapêl Nadolig, sy’n cynnwys teganau, parseli bwyd a/neu dalebau i deuluoedd mewn angen. Mae’r parseli yn cael eu dosbarthu o’r Neuadd ym Mhenarth.