Prosiect newydd yn lansio mapio mannau tyfu bwyd cymunedol yn y Fro
Roedd y Fro yn enwog fel “Gardd Cymru” ar un adeg am ei hamodau tyfu ffafriol. Ac eto, yn anecdotaidd, gwyddom fod pobl yn y Fro yn brin o gyfleoedd i gymunedau ymwneuud â thyfu eu bwyd eu hunain. Y prosiect hwn, a ddarperir gan Social Farms & Gardens, yw’r cam cyntaf mewn ymdrech ehangach i ddeall yr anghenion lleol sy’n gysylltiedig â thyfu bwyd cymunedol yn y Fro. Bydd yn mapio mannau tyfu bwyd cymunedol presennol ym Mro Morgannwg, gan gynnwys gerddi cymunedol, perllannau a rhandiroedd. Bydd hefyd yn cynnwys allgymorth cymunedol i archwilio’r rhwystrau allweddol i gymryd rhan mewn / cyrchu prosiectau tyfu bwyd cymunedol, a pha anghenion ychwanegol allai fodoli ar gyfer tyfu bwyd cymunedol ar draws y Fro. Bydd y prosiect yn cynhyrchu map hawdd ei ddefnyddio i helpu i gyfeirio pobl at fannau tyfu cymunedol presennol, a bydd hefyd yn cynnwys gweithdy i gael mewnbwn ar y camau nesaf. Bydd canfyddiadau yn helpu i lywio cynllun strategol hirdymor ar gyfer tyfu bwyd cymunedol yn lleol. Mae’r gwaith hyn yn cyd-fynd â Strategaeth Bwyd y Fro 2024-2030, ac un o’r canlyniadau allweddol yw ‘Bydd pobl y Fro yn cael mwy o gyfleoedd i dyfu eu ffrwythau a’u llysiau eu hunain, coginio a bwyta gyda’i gilydd’. Bydd hefyd yn cyfrannu at Gynllun Her Hinsawdd ‘Prosiect Sero’ 2021-2030 Cyngor Bro Morgannwg, sy’n ymrwymo i “gweithio gyda chymunedau lleol i gynyddu nifer y rhandiroedd a gofod gerddi cymunedol”. Os hoffech fod yn rhan o’r astudiaeth hon, cysylltwch â Lisa o Social Farms & Gardens. Ariennir y prosiect hwn gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, rhan o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.Prosiect newydd yn lansio mapio mannau tyfu bwyd cymunedol yn y Fro