Mae Llwybr Bwyd y Fro wedi dod i ben ar ôl blwyddyn lwyddiannus arall, gan ddenu mwy na 1,500 o ymwelwyr i ddigwyddiadau a phrofiadau sy’n canolbwyntio ar fwyd ar draws Bro Morgannwg.

Yn rhedeg rhwng 24 Mai a 7 Mehefin, roedd y dathliad pythefnos yn arddangos y gorau o sector bwyd a diod lleol y Fro, gyda 32 o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal mewn ffermydd, caffis, bwytai, marchnadoedd a busnesau annibynnol ledled y sir.

Roedd tua 30 o fusnesau yn ymwneud yn uniongyrchol â’r rhaglen eleni, gyda llawer mwy yn cefnogi a hyrwyddo’r llwybr trwy ddigwyddiadau cymunedol mwy megis Marchnad Ffermwyr y Bont-faen.

Gyda’i gilydd, fe wnaethant helpu i greu rhaglen amrywiol o weithgareddau a gynlluniwyd i gysylltu pobl â chynhyrchwyr lleol, bwyd tymhorol ac arferion bwyd cynaliadwy.

O deithiau fferm a sesiynau blasu i weithdai, diwrnodau agored a bwydlenni arbennig, roedd y llwybr yn cynnig cyfle unigryw i ymwelwyr ddarganfod o ble y daw eu bwyd tra’n cefnogi busnesau a chynhyrchwyr lleol.

Adroddodd busnesau a gymerodd ran ystod o fanteision o’u cynnwys, gan gynnwys mwy o welededd, ymgysylltiad cryfach â’r gymuned a chyfleoedd i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.

Dywedodd Louise Denham, Cydlynydd Bwyd y Fro: “Mae llwyddiant Llwybr Bwyd y Fro eleni yn adlewyrchu brwdfrydedd a haelioni ein busnesau bwyd lleol. Gyda mwy o fusnesau yn cymryd rhan a chymaint yn dewis cydweithio, cefnogi a thynnu goleuni ar ei gilydd, mae wedi bod yn hyfryd gweld cymuned fwyd mor gryf a chysylltiedig ar waith.”

Trefnir Llwybr Bwyd y Fro gan Bwyd y Fro, Cyngor Bro Morgannwg, Croeso y Fro a Cywain, sy’n cydweithio i gefnogi sector bwyd a diod ffyniannus a chynaliadwy ledled y rhanbarth.

Am ragor o wybodaeth am Lwybr Bwyd y Fro a digwyddiadau yn y dyfodol, ewch i wefan Croeso i’r Fro – https://cy.visitthevale.com/vale-food-trail-2026