Gwnaeth y trydydd
Llwybr Bwyd y Fro blynyddol, a gynhaliwyd rhwng 25 Mai a 3 Mehefin 2025, ddod â thua xxx o ymwelwyr a phobl leol ynghyd i archwilio a dathlu treftadaeth gastronomig gyfoethog ac arferion ffermio cynaliadwy Bro Morgannwg.
Roedd yr ŵyl eleni’n cynnwys mwy na 20 o fusnesau lleol, gan gynnig rhaglen o xx o ddigwyddiadau amrywiol a oedd yn arddangos y gorau o fwyd a chynaliadwyedd lleol. Roedd yr uchafbwyntiau’n cynnwys:
- Teithiau gardd ac arddangosiadau tyfu gan arloeswyr fel Ali’s Edibles, Coed Organic ac Ediculture a fu’n rhannu technegau effaith isel fel garddio ‘dim palu’ a garddio coedwig.
- Arddangosiadau a digwyddiadau byw gan gynnwys arddangosiad o sut i dorri stêc gyda Farmer’s Pantry ar Fferm Rosedew, arddangosiad ‘Tyfu Eich Hun’ i blant yn Pugh’s Garden Village a ‘Jazz ar y Lawnt’ yn Forage Farm.
- Digwyddiadau di-alcohol / alcohol isel gan gynnwys taith o amgylch planhigfa de yn Peterston Tea, a digwyddiad ‘cwrdd â’r cynhyrchwyr lleol’ gyda Grounds for Good a
- Blasu gwin, jin a chwrw o Barry Island Spirits Co a Craft Republic; a gwnaeth Gwinllan St Hilary a Gwinllan Tair Gafr gynnig teithiau o amgylch eu gwinwydd hefyd i gyd-fynd ag Wythnos Gwin Cymru.
- Profiadau bwyd rhyngweithiol gan gynnwys marchnad ffermwyr fach gyda Garlic Meadow, saffari fferm ar fachlud haul yn Slade Farm Organics, a thaith gerdded tywys i weld ceirw ym Mharc Llantrithyd.
Myfyriodd Louise Denham, Cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn
Bwyd y Fro ac un o drefnwyr yr ŵyl, ar lwyddiant Llwybr Bwyd y Fro ar ôl y drydedd flwyddyn. Dywedodd, “
Mae Llwybr Bwyd y Fro 2025 nid yn unig yn dathlu cynhyrchu bwyd lleol, cynaliadwy, ond hefyd yn cryfhau’r gymuned fwyd leol yma; roedd yn wych gweld cynhyrchwyr yn ymuno i gydweithio ar rai digwyddiadau, a gweld lleoliadau fel Siop Forage Farm yn cynnal digwyddiadau arbennig a sesiynau blasu yn cynnwys cynnyrch a chyflenwyr lleol. Rydym yn gobeithio bod mynychwyr y llwybr eleni wedi gadael gyda gwerthfawrogiad gwell o’r holl fwyd anhygoel sy’n cael ei gynhyrchu yma yn y Fro!”
Mae llwyddiant y digwyddiad eleni wedi gosod sylfaen gadarn ar gyfer gwyliau yn y dyfodol. Mae cynlluniau eisoes ar y gweill ar gyfer Llwybr Bwyd y Fro 2026, gan ganolbwyntio ar ehangu’r ystod o weithgareddau ac ymgysylltu â hyd yn oed mwy o fusnesau ac ymwelwyr lleol.
Ychwanegodd Cath Smith, uwch swyddog bwyd a ffermio yng Nghyngor Bro Morgannwg: “
Mae bwyta bwyd tymhorol a lleol yn golygu llawer mwy na blas gwych yn unig, mae’n golygu ffermio cynaliadwy, bwyd maethlon ffres a chefnogi cynhyrchwyr lleol sy’n gweithio’n ddiflino i gynhyrchu bwyd a diod leol o ansawdd uchel.
Os colloch chi Lwybr Bwyd y Fro eleni neu os ydych chi’n awyddus i ddysgu mwy, lansiodd Cyngor Bro Morgannwg gyfeiriadur Blas y Fro yn ddiweddar, sydd â’r nod o gysylltu trigolion ac ymwelwyr â chynhyrchwyr bwyd lleol. Mae’r cyfeiriadur, sydd i’w weld ar wefan Ymweld â’r Fro, yn tynnu sylw at dreftadaeth fwyd a ffermio’r sir, ac yn cynnig gwybodaeth am gynhyrchwyr lleol, gwinllannoedd, llaethdai, pobyddion, a mwy.”
Am fwy o wybodaeth a diweddariadau ar Lwybr Bwyd y Fro y flwyddyn nesaf, cofrestrwch ar gyfer y cylchlythyr yn
https://www.valefoodtrail.com.
I weld cyfeiriadur cynhyrchwyr Blas y Fro, ewch i:
https://cy.visitthevale.com/food-drink/food-producers.