Llaeth Lleol Di-Blastig y Bont-Faen!
Rhoddodd yr angen i aileoli’r fuches odro yn 2020 dipyn o her i David a Tomos Adams
Llanfrynach Farm Y Bont- faen, Bro Morgannwg. Ond yn y pendraw esblygodd ar syniad newydd, ac yng nghanol stormydd triphlyg mis Chwefror, gwelwyd lansio’r ‘Milk Shed’ sef peiriant gwerthu llaeth hunan-wasanaeth sero milltir wedi ei bweru gan ynni solar.
“Roedd ail-leoli yn dipyn o sialens i gychwyn ond mae wedi trawsnewid ein ffordd o ffermio. Bellach, mae’n bosib mai ni yw’r unig fferm yn y DU sy’n godro gyda robot oddi ar y grid. Ein gwartheg sy’n penderfynu pryd mae nhw eisiau cael eu godro bob dydd mewn system robotig sy’n defnyddio egni adnewyddol drwy ynni’r haul a batri. Mae’n llawer gwell i iechyd a hapusrwydd y fuches hefyd a nawr mae gen i fwy o amser i edrych ar eu hôl nhw yn hytrach na godro” esboniodd Tomos Adams BSc Prifysgol Nottingham.
Mae’r Milk Shed mewn lleoliad hygyrch oddiar yr A48, ar gyrion y Bont-faen. O fewn pellter cerdded hawdd i’r dre ac ar lwybr troed cylchol heibio eglwys hynafol Llanfrynach, a roddodd yr enw a logo i’r fentrer laeth carbon isel hwn.
“Doedd lansio mewn stormydd ddim yn hawdd, ond rydym ni’n hoff o sialens! Mae’r manteision amgylcheddol yn glir – dim gwastraff plastig a’r daith i’r ‘Milk Shed’ ddim ond rhyw gan medr ac mae popeth yn cael ei redeg ar ynni solar. Rydyn ni’n falch iawn o gael cyflwyno llaeth lleol cynaladwy wedi ei basutrueiddio i bobl leol” ychwanegodd Tomos.
“Pwrpas ffermio i ni yw cynnig cynnyrch o’r radd flaenaf ac edrych ar ôl ein hanifeiliaid a chnydau yma ym Mro Morgannwg. Mae yna alw cynyddol yn ddiweddar i brynu’n lleol, cefnogi cymunedau amaethyddol a thorri ar y defnydd o blastig. A gallwch chi ddim cael llaeth mwy ffres na’r cynnyrch ar eich stepen drws, a hwnnw’n flasus!” esbonia David.
Mae Rhiannon Adams, chwaer Tomos hefyd yn helpu gyda’r busnes;
“Rydyn ni’n gyffrous iawn o allu lansio’r llaeth o’r diwedd yn uniongyrchol i’r cwsmer a thorri allan yr archfarchnadoedd gan gynnig llaeth yn ei ffurf naturiol – heb ei homogeneiddio (gyda’r hufen ar y top). Rydyn ni’n pastureiddio’r llaeth i’r safon diogel a dyna ni – cyn lleied â phosib o brosesu sy’n hybu’r blas.”
Bu twf aruthrol mewn peiriannau llaeth hunan wasanaeth ar draws Cymru yn ddiweddar gyda ffermwyr yn mynd nôl at eu gwreiddiau a chynnig llaeth naturiol ffres i bobl leol, a nifer yn gwerthu cynnyrch lleol eraill yn ogystal.
“Ry’n ni hefyd yn gobeithio addysgu ein cwsmeriaid am ffermio a chynhyrchu llaeth. Mae llaeth yn naturiol isel mewn braster – tua 4%, yn ffynhonell o brotein, fitaminau a mineralau a mor hyblyg ei ddefnydd” esbonia Rhiannon.
“Beth sy’n hynod o boblogaidd yma hefyd yw ein gorsaf ysgytlaeth – rydyn ni’n cynnig syrups Shaky Cow gyda ystod eang o flasau – y gwerthwyr gorau yw mefus a siocled, ond mae caramel hallt a banoffee yn prysur ennill eu tir!”
Bydd Milk Shed Llanfrynach Farm yn y Bont-faen ar agor 24 awr y dydd gyda thaliadau digyswllt. Mae angen talu arian parod am yr ysgytlaeth. Gellir prynu poteli aml ddefnydd yno hefyd gyda llun Eglwys Llanfrynach arnynt i helpu pawb waredu’r defnydd o blastic.
Mae Nia Môn, Rheolwr Datblygu Cywain – un o brosiectau Menter a Busnes sy’n cefnogi datblygiad busnesau sy’n canolbwyntio ar dwf yn y sector bwyd a diod yng Nghymru wedi rhoi cymorth cyffredinol i’r fenter a chymorth dynlunio. “Mae cefnogi cynhyrchwyr lleol yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’r economi leol a chynaliadwyedd, gyda chanran uchel o’r bunt yn aros yn lleol, dwi’n annog pawb i brynu’n lleol yn 2022 ac yn edrych ymlaen i weld llwyddiant a thwf Llanfrynach Farm dros y blynyddoedd nesaf yn cyflenwi cynnyrch llaeth i’r ardal. Pob lwc”.
Dilynwch Llanfrynach Farm ar facebook
@LlanfrynachFarm & Instagram
@Llanfrynach_Farmhttps://foodvale.org/wp-content/uploads/2022/03/IMG_5880-flavours.jpg