Bydd gwefan Sgiliau Maeth am Oes yn darparu cymorth a chyngor i bobl ledled Cymru. Cefnogir gan Rwydwaith Dietegwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddarparu cymorth ymarferol ar gyfer dewisiadau bwyd iach a hyfforddiant.

Mae’r Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ar ran rhwydwaith Dietegwyr Iechyd Cyhoeddus yng Nghymru, yn falch o gyhoeddi lansiad gwefan Sgiliau Maeth am Oes. Maent yn darparu addysg a hyfforddiant maeth i staff cymunedol a gwirfoddolwyr; cefnogi ysgolion, lleoliadau gofal plant a lleoliadau gofal oedolion hŷn i wella’r ddarpariaeth bwyd a diod a helpu i gyflwyno a hwyluso mentrau bwyd a maeth cymunedol i ehangu mynediad at ddiet amrywiol a chytbwys.

Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth i’r cyhoedd am gyrsiau maeth achrededig a sgiliau bwyd ymarferol sy’n rhedeg ledled Cymru. Mae hefyd yn cynnig awgrymiadau maeth ymarferol a chyngor, syniadau ryseitiau a gemau rhyngweithiol sy’n addas ar gyfer pob oed.

Y tu hwnt i hyn, mae’r wefan hefyd yn cynnwys gwybodaeth benodol am hyfforddiant maeth achrededig sydd ar gael i weithwyr cymunedol a gwirfoddolwyr, yn ogystal ag adran i Weithwyr Proffesiynol Iechyd a Gofal.

Dywedodd Lisa Williams, Hwylusydd Hyfforddiant Maeth Cymru Gyfan:

“Ein nod yw bod gan bobl yng Nghymru’r sgiliau, y cyfle a’r hyder i gael mynediad at fwyd iach, fforddiadwy a chynaliadwy iddyn nhw eu hunain, eu teuluoedd a’u cymunedau.

“Mae’r wefan yn darparu gwybodaeth ymarferol am fwyta’n iach, yn ogystal â gwybodaeth am grwpiau, mentrau a hyfforddiant sydd ar gael ledled Cymru i gefnogi pobl i wneud dewisiadau bwyd iach. Mae maeth mor bwysig i’n hiechyd, yn feddyliol ac yn gorfforol, ac rydym am sicrhau bod pawb yn gallu cyrchu’r wybodaeth sy’n iawn iddyn nhw i’w helpu i fod mor ffit ac iach ag y gallant fod.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles, Lynne Neagle:

“Nod ein strategaeth uchelgeisiol Pwysau Iach: Cymru Iach yw atal y cynnydd mewn gordewdra a gwneud Cymru’n wlad iachach a mwy egnïol. Er mwyn gwneud hyn mae angen i ni weithio gydag ystod o bartneriaid ac rwy’n falch iawn ein bod wedi darparu cyllid i’r rhaglen Sgiliau Maeth am Oes.

Mae Dietegwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gwahodd ymwelwyr i archwilio gwefan newydd Sgiliau Maeth am Oes. Drwy edrych ar yr adran ‘Beth sy’ ‘mlaen wrth fy ymyl i?’, gall ymwelwyr ddarganfod mwy am fentrau bwyd lleol a chyrsiau sgiliau bwyd a maeth cymunedol a allai fod yn ddefnyddiol iddyn nhw a hefyd darllen rhai o’r erthyglau newyddion i ddarganfod sut mae pobl eraill wedi elwa.