Lansio Cynllun Gweithredu Bwyd Iach a Chynaliadwy y Fro!
Rydym wedi defnyddio syniadau a gyflwynwyd gan Rwydwaith Bwyd y Fro, sgyrsiau gyda dinasyddion angerddol ar draws y Fro ac arbenigedd Grŵp Llywio Bwyd y Fro er mwyn llunio cynllun gweithredu ar gyfer y mudiad bwyd da yn 2022/23. Mae’r cynllun 12 mis wedi ei strwythuro o amgylch tair nod allweddol Siarter Bwyd y Fro; Pryd o fwyd da i bawb bob dydd, Busnesau annibynnol sy’n ffynnu ac yn cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi, a Meddwl yn Fyd-eang, Bwyta’n Lleol. Mae’n cynnwys gweithgareddau fel datblygu achos dros hysbysebu bwyd iach; datblygu cyfeiriadur ar-lein o fusnesau bwyd lleol; cefnogi datblygiad rhwydweithiau fferm; sefydlu rhwydwaith bwyd cymunedol ac archwilio cyfleoedd ar gyfer cribino ar draws y Fro. Mae’r ddogfen yn brawf rhagorol o’r hyn sydd eisoes yn digwydd yn y Fro yn ymwneud â bwyd iach a chynaliadwy, yn ogsytal â bod yn arwydd clir o’r cyfeiriad y mae cymunedau a sefydliadau lleol eisiau mynd, sef tuag at system fwyd leol gyfiawn a chynaliadwy. Fel aelod o Fannau Bwyd Cynaliadwy, rydym hefyd wedi ceisio sicrhau bod ein cynllun gweithredu yn cynnwys yr ystod o faterion a nodir yn y Fframwaith Mannau Bwyd Cynaliadwy.Bydd drafft terfynol y Cynllun Gweithredu’n cael ei lansio’n swyddogol yng Nghyfarfod y Rhwydwaith ar 16 Chwefror 2022.
https://foodvale.org/wp-content/uploads/2022/02/Front-cover_cym.png