Yng ngoleuni datblygiadau diweddar gydag amrywiolyn Omicron Covid, rydym wedi penderfynu gohirio’r digwyddiad hwn. Er mwyn gallu cael cyfle i gwrdd mewn person tra’n sicrhau bod cymaint o fesurau diogelwch â phosibl wedi eu sefydlu i atal trosglwyddo Covid, ein bwriad yw aildrefnu’r digwyddiad ar gyfer canol-diwedd Chwefror. Bydd y dyddiad yn cael ei gadarnhau yn y Flwyddyn Newydd. Yn y Cyfarfod hwn o’r Rhwydwaith, byddwn yn lansio Cynllun Gweithredu 2022 ar gyfer y mudiad bwyd da ym Mro Morgannwg, ac yn cynnal trafodaethau thema ar destunau fel tyfu cymunedol a gwastraff bwyd. Os oes gennych syniad yr hoffech iddo gael ei gynnwys yn rhaglen y prynhawn, cysylltwch â Louise yn louise.denham@wales.nhs.uk. Lle y bo’n bosibl, byddwn yn gwneud trefniadau ar gyfer dilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol. Byddwn yn parhau i asesu diogelwch ymgynnull mewn person wrth i amser fynd yn ei flaen. Mwy o fanylion i ddilyn yn nes ymlaen yn ystod y mis.

Cofrestrwch am ddim yma.