Gwirfoddolwyr Fan Cadfield eisiau lledaenu llawenydd a hapusrwydd y Nadolig hwn!
Mae gwirfoddolwyr Fan Cadfield eisiau lledaenu llawenydd a hapusrwydd y Nadolig hwn trwy gefnogi teuluoedd wrth greu Basgedi Nadolig hyfryd. Ar ôl blwyddyn heriol i lawer o’n teuluoedd ac aelodau o’r gymuned, rydym eisiau dod ynghyd i sicrhau y gall ein teuluoedd i gyd gael Nadolig arbennig yn llawn llawenydd a hapusrwydd. Rydym eisiau helpu ein teuluoedd sy’n defnyddio ein fan Cadfield bob wythnos trwy ddarparu Basged Cinio Nadolig ar eu cyfer, na fyddent wedi gallu ei fforddio fel arall efallai. Mae’r rhan fwyaf o’r cynnyrch ar gyfer y basgedi wedi eu cyrchu’n lleol i gefnogi ein busnesau annibynnol lleol yn yr ardal.
Rydym eisiau rhoi Nadolig i’w gofio i’n teuluoedd a’r Nadolig y maent yn ei haeddu.
Gofynnir i deuluoedd gyfrannu £5 tuag at y basgedi a byddant yn cynnwys –
Darn o Gig (Cyw Iâr, Twrci, Porc, Cig Eidion neu Gig Oen), Moch mewn blancedi, Llysiau – Sbrowts, Moron, Tato, Bresych, Pannas, Gronynnau Grefi, Pwdin Nadoligaidd, Mins Peis, a siocledi a thalebau rhodd i’r plant. Rydym wedi creu’r basgedi er mwyn darparu Pryd Nadolig cytbwys.
Os hoffech gefnogi’r elusen hon trwy roi cyfraniad, ewch i’n
Tudalen Just Giving.
Nod Cynorthwywyr Siôn Corn yw gwneud 82 o Fasgedi Nadolig fydd yn cael eu dosbarthu i’w cartrefi ar 23 Rhagfyr. Gyda’n gilydd gallwn a gyda’n gilydd fe wnawn!