Mae Cychwyn Iach yn gynllun gan y llywodraeth sydd yn rhoi mynediad at ffrwythau, llysiau, corbys, llaeth a fitaminau am ddim i fenywod beichiog a rhieni/gofalwyr plant hyd at 4 oed sydd ar incwm isel.
O Ebrill 2022, bydd y cynllun yn newid – bydd talebau papur Cychwyn Iach yn cael eu disodli gan gerdyn rhagdaledig. Yn lle derbyn talebau papur drwy’r post bob mis, bydd pobl yn derbyn cerdyn rhagdaledig yr ychwanegir ato unwaith y mis gyda’u lwfans Cychwyn Iach a bydd ar gael i’w ddefnyddio mewn unrhyw siop/marchnad/siop fwyd sydd yn derbyn Mastercard. Bydd unrhyw un sydd yn gwneud cais o nawr ymlaen yn derbyn ac yn gallu dechrau defnyddio’r cerdyn rhagdaledig.
Buddion y cerdyn i fanwerthwyr:
· Ni fydd angen cofrestru bellach i dderbyn talebau Cychwyn Iach na bod yn rhan o’r cynllun Cychwyn Iach
· Ni fydd angen gwneud cais am ad-daliadau bellach gan Uned Ad-daliadau Cychwyn Iach (dylai mwerthwyr sydd eisoes wedi cofrestru ar y cynllun barhau i gasglu a chyfnewid talebau Cychwyn Iach dilys tan eu dyddiad dod i ben)
· Nid fydd angen i fanwerthwr wirio’r hyn y mae deiliad cerdyn yn ei brynu chwaith. Nid yw’r cerdyn yn cyfyngu ar fathau o bryniannau mewn siop ac mae’r cyfrifoldeb dros brynu’r eitemau cywir gyda deiliad y cerdyn
Os nad yw deiliad cerdyn yn siŵr o falans eu cyfrif/heb ddigon o gredyd rhagdaledig i brynu eitemau, gellir eu cynghori i wirio’r balans ar eu cerdyn mewn peiriant ATM neu trwy ffonio 0300 330 7010 (gellir codi tâl am alwadau)
I lawrlwytho’r canllaw llawn ar gyfer manwerthwyr, ewch i: https://media.nhsbsa.nhs.uk/resources/f/nhs-healthy-start-digital-scheme/guidance-documents