Dewch i Gyfarfod Bwyd y Fro ym mis Awst – Croeso i bawb!
Dewch draw i’n cyfarfod Bwyd y Fro ym mis Awst ddydd Mercher 23 Awst.
Y mis hwn byddwn ni’n cyfarfod yng Nghanolfan Gymunedol y Rhws ar 23 Awst 6.15pm-8.30pm.
Bydd y cyfarfod yn gyfle cyfeillgar i gysylltu â phobl y Fro a rhannu eich barn ar sut y gallwn ni adeiladu mudiad bwyd da yn y Fro.
Yn benodol, byddwn ni’n adeiladu ar ein sgyrsiau o’r cyfarfod diwethaf ym mis Mawrth am brosiectau sy’n gysylltiedig â bwyd y gallen ni eu datblygu ar y cyd a chwilio am gyllid ar eu cyfer.
Bydd gennym ni ddiweddariadau cyffrous hefyd ar Strategaeth Fwyd newydd y Fro, ymchwil ansicrwydd bwyd, ac uchelgais i ennill Gwobr Arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy!
Cysylltwch â Louise os hoffech chi drafod unrhyw beth yn benodol ar y diwrnod.
Mae Canolfan Gymunedol y Rhws yn daith gerdded dau funud o Faes Awyr Rhyngwladol y Rhws Caerdydd i’r rhai sy’n dymuno cyrraedd ar y trên.