BUSNESAU A CHYNHYRCHWYR BWYD YN CAEL EU HANNOG I GOFRESTRU AR GYFER TRYDYDD ‘LLWYBR BWYD Y FRO’ YR HAF HWN
Yn dilyn digwyddiad cyntaf yn 2023 a dychweliad llwyddiannus y llynedd, bydd
‘Llwybr Bwyd y Fro’ 2025 yn cael ei gynnal o 25 Mai – 3 Mehefin 2025.
Mae’r ŵyl fwyd deng diwrnod aml-leoliad yn cynnig ‘archwilio a dathlu bwyd, ffermio a chynaliadwyedd ym Mro Morgannwg.’
Y llynedd, roedd mwy na 35 o fusnesau lleol yn cynnig rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau sydd wedi’u cynllunio i ddod â phobl yn agosach at gynhyrchwyr a busnesau bwyd yn yr ardal leol. Teithiodd dros 1,000 o ymwelwyr a phobl leol o amgylch y rhanbarth, gan ymweld â chynhyrchwyr, bwytai a busnesau eraill yn annibynnol ar gyfer digwyddiadau a oedd yn cynnwys teithiau fferm, gweithdai coginio, digwyddiadau blasu, arddangosfeydd arbennig, arddangosiadau byw a mwy.
Mae trefnwyr yr ŵyl nawr yn
gwahodd ceisiadau gan fusnesau, cynhyrchwyr a sefydliadau sy’n dymuno cynnal digwyddiad fel rhan o’r ŵyl; gellir cymryd rhan yn yr ŵyl yn rhad ac am ddim, a bydd y rheiny sy’n cymryd rhan yn elwa ar fwy o amlygrwydd drwy ddeunydd marchnata’r ŵyl, a chyfle i gyrraedd cwsmeriaid newydd yn y Fro a thu hwnt.
Louise Denham yw cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Bwyd y Fro, ac un o gydlynwyr yr ŵyl.
Dywedodd hi “Rydym wrth ein bodd o fod yn dod â Llwybr Bwyd y Fro yn ôl am y trydydd tro, gan adeiladu ar y ddwy flynedd ddiwethaf o lwyddiant i wneud yr ŵyl hyd yn oed yn fwy ac yn well yn 2025. Rydym yn edrych ymlaen at yr hyn a gaiff ei gynnig gan fusnesau lleol – p’un a yw’n weithdai gwneud bara neu biclo; teithiau fferm a gweithgareddau dewis eich cynnyrch eich hun; bwydlenni arbennig sy’n cynnwys cynhwysion lleol, tymhorol; sesiynau blasu a theithiau o amgylch gwinllannoedd/perllannau lleol; arddangosiadau cadw gwenyn a magu anifeiliaid – neu unrhyw beth arall sy’n gysylltiedig â bwyd cynaliadwy – rydym yn awyddus i glywed amdano!”
Bydd Mill Dessent o Coed Organig yn Llwybr Bwyd y Fro am y tro cyntaf y flwyddyn hon.
Dywedodd hi “Rydym yn ardd farchnad organig ger y Bont-faen, yn meithrin y pridd ac yn cynhyrchu llysiau mewn ffordd sy’n dda i’r natur a’r hinsawdd; Nid ydym yn defnyddio unrhyw wrteithiau cemegol, plaladdwyr, ffwngleiddiaid ar ein fferm – dim ond 100% dulliau naturiol y byddwn yn eu defnyddio i dyfu ein cynnyrch. Rydym yn llawn cyffro i agor gât ein fferm ar
gyfer taith i’r cyhoedd fel rhan o Lwybr Bwyd y Fro 2025, i siarad am yr hyn rydyn ni’n ei dyfu, ein dulliau tyfu a rôl cynhyrchu garddwriaethol organig mewn systemau bwyd lleol cynaliadwy.”
Mae rhagor o fanylion am sut i wneud cais i gynnal digwyddiad fel rhan o Lwybr Bwyd y Fro 2025 ar gael yn
www.valefoodtrail.com. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 21 Mawrth 2025.
Gallwch hefyd gofrestru i gael y
cylchlythyr i dderbyn hysbysiadau a diweddariadau pellach ac ymuno â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol trwy ddefnyddio #LlwybrBwydyFro.
Mae Llwybr Bwyd y Fro 2025 yn cael ei drefnu gan bartneriaid o
Bwyd y Fro, Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Bro Morgannwg;
Ymweld â’r Fro; ; Cyngor Bro Morgannwg, yn ogystal â rhaglen cymorth busnes Mentera,
Cywain.
DIWEDD
Ar gyfer holl ymholiadau’r cyfryngau a cheisiadau am gyfweliad, e-bostiwch: hello@talktojanepr.co.uk. Mae lluniau ar gael ar gais.
Ynglŷn â Llwybr Bwyd y Fro
Bydd trydydd digwyddiad Llwybr Bwyd y Fro rhwng 25 Mai a 3 Mehefin2025 yn dod â phobl yn agosach at gynhyrchwyr a busnesau bwyd yn y Fro, wrth ddyfnhau cysylltiad pobl â’u cymuned.
Mae Llwybr Bwyd y Fro yn cael ei drefnu gan bartneriaid o
Bwyd y Fro, Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Bro Morgannwg;
Ymweld â’r Fro; a Chyngor Bro Morgannwg, yn ogystal â rhaglen cymorth busnes Mentera,
Cywain.
Ynglŷn â Bwyd y Fro
Mae Bwyd y Fro yn cael ei gynnal o fewn y tîm iechyd cyhoeddus lleol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac mae’n rhan o’r rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, rhaglen bartneriaeth dan arweiniad Cymdeithas y Pridd, Materion Bwyd a Cynnal: y gynghrair ar gyfer bwyd a ffermio gwell. Nod Bwyd y Fro yw helpu i ddatblygu system fwyd leol fwy cynaliadwy a gwella mynediad, fforddiadwyedd ac argaeledd bwyd da ar draws Bro Morgannwg. I gael gwybod mwy, ewch i:
https://foodvale.org.