Arweinwyr bwyd Bro Morgannwg yn annog y Llywodraeth i fuddsoddi mewn bwyd lleol
Ymunodd Bwyd Y Fro â 90+ o arweinwyr bwyd lleol ac ASau yn y Senedd i alw ar y Llywodraeth i fuddsoddi mwy mewn bwyd iach a chynaliadwy
Fe wnaeth digwyddiad ‘Buddsoddi mewn dyfodol bwyd gwell’ ar 14 Mehefin arddangos y rôl arloesol y mae partneriaethau bwyd yn ei chwarae i wella’r economi leol ac iechyd y gymuned
Cyfarfu cynrychiolwyr o Bwyd Y Fro a 90+ o arweinwyr bwyd lleol eraill yn y Senedd-dai i alw am fwy o fuddsoddi mewn economïau bwyd lleol, ffermio sy’n gyfeillgar i natur a mynediad i fwyd iach fel rhan o’r ymdrech i fynd i’r afael â’r heriau economaidd, cymdeithasol ac iechyd mwyaf brys sy’n wynebu Bro Morgannwg.
Ddydd Mercher 14 Mehefin, daeth arweinwyr y rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy (SFP) ynghyd gydag ASau yn Portcullis House, San Steffan i gydnabod y grym sydd gan fwyd iach a chynaliadwy i weddnewid cymunedau ac economïau lleol, gan gofnodi’r gweithredu lleol a chenedlaethol i sicrhau dyfodol bwyd gwell. Tynnodd y digwyddiad sylw at y rôl y mae partneriaethau bwyd fel [local food partnership name] yn ei chwarae i ddenu cyllid a buddsoddiadau ac i gynnig atebion hirdymor i rai o’r problemau mwyaf brys yn ein system fwyd, gan gynnwys perygl i’r cyflenwad bwyd, annhegwch ac amhariadau ar y gadwyn gyflenwi, a’r argyfwng hinsawdd a natur.
Yn y digwyddiad, ceid siaradwyr o bartneriaethau bwyd Bury, Falkirk, Swydd Gaerlŷr a Sir Fynwy, yn ogystal â Patricia Gibson AS, Daniel Zeichner AS a Kath Dalmeny CEO Sustain.
Meddai Cydlynydd Gweithredu Lleol Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Vera Zakharov: “Mae Partneriaethau Bwyd yn arloeswyr lleol go iawn, maent yn gweithredu mewn ffyrdd arloesol i greu cadwyni cyflenwi gwell a mwy cadarn, i greu swyddi bwyd da ac i ddwyn cymunedau ynghyd o safbwynt bwyd iachus, cynaliadwy. Yn absenoldeb Strategaeth Fwyd gydgysylltiedig gan y Llywodraeth, mae partneriaethau bwyd yn gosod esiampl yn lleol ac yn rhanbarthol ac fe ddylid eu hehangu yn genedlaethol. A yw’n bryd i’r Llywodraeth gydnabod ei chyfraniad drwy ymrwymo i Fil Bwyd ym mhob gwlad a phartneriaeth fwyd ym mhob ardal o’r Deyrnas Unedig.”
Meddai Arweinydd Rhaglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, Leon Ballin o Gymdeithas y Pridd: “Dyma’r criw mwyaf i droi allan hyd yma ar gyfer arweinyddion y partneriaethau, ac maent eisiau anfon neges glir i’r llywodraeth fod ganddynt ran holl bwysig i’w chwarae i lywio dull gweithredu cadarn o safbwynt polisi bwyd, diogelwch cyflenwadau bwyd a chymunedau iach. Mae pob un ohonynt wedi cael llwyddiant cyson yn cyflwyno strategaethau cadarn sy’n ennyn diddordeb llywodraeth leol, cymunedau a busnesau i greu partneriaethau cynaliadwy a llwyddiannus.
“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r ASau sydd wedi cefnogi’r rhwydwaith SFP cyn belled, ond mae’n awr yn amser i’r llywodraeth weithredu drwy fuddsoddi yn y model hwn, y profwyd ei fod yn diogelu cyflenwadau bwyd y Deyrnas Unedig yn yr hirdymor, a rhannu’r arferion gorau ar bob agwedd ar fwyd iach a chynaliadwy i bawb.”
Mae Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn dwyn ynghyd bartneriaethau bwyd arloesol o drefi, dinasoedd, bwrdeistrefi, dosbarthau a siroedd ar draws y Deyrnas Unedig sy’n ysgogi datblygiadau arloesol a’r arferion gorau ar bob agwedd ar fwyd iachus a chynaliadwy. Rhaglen bartneriaeth dan arweiniad Cymdeithas y Pridd, Food Matters a Sustain ydyw, fe’i hariannir gan yr Esmée Fairbairn Foundation a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Daeth llawer o’r partneriaethau i amlygrwydd drwy gefnogi eu hardaloedd lleol drwy’r pandemig a’r argyfwng costau byw. Ond mae partneriaethau bwyd hefyd yn gweithio ar atebion hirdymor i anniogelwch cyflenwadau bwyd, cynyddu cadernid a chapasiti cymunedau lleol i drawsnewid o gynorthwyo â bwyd i fasnachu bwyd, creu rhwydweithiau gwell o amgylch bwyd a chynhyrchu bwyd, a meithrin menter yn lleol.
Arweinwyr bwyd Bro Morgannwg yn annog y Llywodraeth i fuddsoddi mewn bwyd lleol