Mae Bwyd y Fro wedi lansio prosiect newydd i gefnogi datblygiad sector garddwriaethol cryfach a mwy cysylltiedig ym Mro Morgannwg.

Bydd y prosiect yn gweithio gyda thyfwyr lleol, busnesau cadwyn gyflenwi, manwerthwyr a busnesau lletygarwch i archwilio cyfleoedd ymarferol ar gyfer llwybrau cydweithredol i’r farchnad, hyrwyddo ar y cyd a seilwaith a rennir, gan helpu busnesau garddwriaethol lleol i gryfhau eu gwydnwch, eu heffeithlonrwydd a’u hyfywedd masnachol.

Mae’r prosiect yn cael ei gyflawni mewn cydweithrediad agos â Cywain a thîm Adfywio Economaidd Cyngor Bro Morgannwg. Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Tony Little o Sustainable Farming Consultancy, sy’n dod â phrofiad helaeth o arddwriaeth, systemau bwyd lleol a chadwyni cyflenwi byr, yn ogystal â phrofiad o gefnogi grwpiau cynhyrchwyr a mentrau peiriannau a rennir.

Dros y misoedd nesaf, bydd Tony yn gweithio’n agos gyda thyfwyr sy’n rhan o raglen Agrisgôp barhaus Cyswllt Ffermio, ochr yn ochr â’r gymuned arddwriaethol ehangach yn y Fro. Bydd y gwaith yn archwilio cyfleoedd i:

  • ddatblygu llwybrau newydd neu gryfach i’r farchnad ar gyfer cynnyrch a dyfir yn lleol;
  • deall anghenion darpar brynwyr a sut y gallai tyfwyr lleol gydweithio i’w diwallu;
  • archwilio cyfleoedd ar gyfer cynhyrchu cydlynol, gwerthu ar y cyd a hyrwyddo;
  • nodi cyfleoedd ar gyfer rhannu peiriannau, offer, storfeydd a seilwaith arall;
  • ystyried modelau ymarferol ar gyfer rheoli a rhannu offer ac adnoddau eraill; a
  • datblygu argymhellion ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol a chydweithio tymor hwy.

Mae’r prosiect yn adeiladu ar y rhwydwaith cynyddol o fusnesau garddwriaethol yn y Fro a gwaith ehangach Bwyd y Fro i gryfhau’r system fwyd leol – gan gysylltu dulliau cynhyrchu lleol â chymunedau, busnesau a sefydliadau ledled y Fro.

Allech chi helpu i lunio’r gwaith?

Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan brynwyr posibl a allai fod â diddordeb mewn cyrchu cynnyrch garddwriaethol a dyfir yn lleol, gan gynnwys busnesau, darparwyr lletygarwch, manwerthwyr, cyfanwerthwyr a sefydliadau eraill.

Hoffem hefyd glywed gan ffermwyr a thyfwyr ledled y Fro a allai fod â diddordeb mewn archwilio cyfleoedd i rannu peiriannau neu offer arall, p’un a ydych eisoes yn ymwneud â gweithgarwch Bwyd y Fro ai peidio.

Bydd eich mewnbwn yn helpu Tony i ddeall pa gyfleoedd a rhwystrau sy’n bodoli a ble gallai fod potensial ar gyfer cydweithio ymarferol.

Os ydych chi’n ddarpar brynwr, neu’n ffermwr/tyfwr sydd â diddordeb mewn peiriannau neu offer a rennir, cysylltwch â Tony Little yn tony@sustainablefarming.co.uk.

Byddem yn croesawu sgyrsiau cynnar yn arbennig, hyd yn oed os mai’r cyfan rydych chi am ei wneud yw dysgu mwy neu rannu eich profiad.