Ymunwch â Bwyd y Fro am noson yn dathlu’r bobl, y prosiectau a’r partneriaethau sy’n helpu i drawsnewid y system fwyd ym Mro Morgannwg.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld cynnydd cyffrous ar draws Strategaeth Bwyd y Fro 2025–2030, o gefnogi tyfwyr a busnesau bwyd lleol i gryfhau gwydnwch bwyd cymunedol, creu cyfleoedd i ddysgu am fwyd da a mynd ymlaen i ennill gwobr Arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ar gyfer Bro Morgannwg.
Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i ddod at ein gilydd, dathlu’r hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn, rhannu dysgu o bob cwr o’r Fro a meddwl gyda’n gilydd beth allwn ni ei wneud nesaf. Mae cofrestru am ddim, ond mae tocynnau’n gyfyngedig. Archebwch eich lle yma.
Dyddiad: Dydd Mercher, 14 Hydref, 2026 Lleoliad: Tramshed Tech, Y Barri Amser: 18:00- 21:30

Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i ddod at ein gilydd, dathlu’r hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn, rhannu dysgu o bob cwr o’r Fro a meddwl gyda’n gilydd beth allwn ni ei wneud nesaf.

Dyddiad: Dydd Mercher, 14 Hydref, 2026 Lleoliad: Tramshed Tech, Y Barri Amser: 18:00- 21:30

Beth i’w ddisgwyl:What to expect

· Hear from local Good Food Ambassadors, showcasing some of the exciting work currently taking place across the Vale

Clywch gan Lysgenhadon Bwyd Da lleol, a fydd yn arddangos rhywfaint o’r gwaith cyffrous sy’n digwydd ar hyn o bryd ar draws y Fro

Cymerwch ran mewn trafodaethau grŵp bach, gan gyfnewid syniadau ac archwilio sut y gallwn adeiladu ar y cynnydd hwn gyda’n gilydd

Archwiliwch arddangosfeydd sy’n tynnu sylw at brosiectau a chyflawniadau allweddol o bob rhan o waith Bwyd y Fro

Cysylltwch ag eraill sydd â diddordeb mewn creu system fwyd leol iachach, mwy cynaliadwy a gwydn

Ar gyfer pwy mae’r digwyddiad?

Mae’r digwyddiad ar agor i bawb sydd â diddordeb mewn creu system fwyd leol iachach, mwy cynaliadwy a gwydn ym Mro Morgannwg.

Rydym yn croesawu busnesau a chynhyrchwyr bwyd lleol, sefydliadau cymunedol, ysgolion, cynrychiolwyr etholedig ac unrhyw un sy’n ymwneud â, neu sydd â diddordeb yn nyfodol bwyd yn y Fro yn arbennig.

P’un a ydych chi eisoes yn rhan o waith Bwyd y Fro neu’n gwbl newydd iddo, byddem wrth ein bodd pe bai chi’n ymuno â ni.