Mae Food Vale yn gweithio i gryfhau’r system fwyd leol ym Mro Morganwg drwy gefnogi rhwydwaith cydweithredol o dyfwyr garddwriaethol lleol. Drwy raglen o weithdai wedi’u hwyluso a gweithgareddau meithrin gallu a gyflwynir gan Farming Connect fel rhan o’u rhaglen Agrisgop, mae tyfwyr yn archwilio dulliau cydweithredol o gynhyrchu, marchnata, dosbarthu a datblygu busnes.

Er mwyn adeiladu ar y momentwm hwn, rydym yn chwilio am gontractwr i helpu i drosi’r trafodaethau hyn yn gamau ymarferol.

Bydd y contractwr llwyddiannus yn cydweithio’n agos â thyfwyr sy’n cymryd rhan yn rhaglen Agrisgôp i gydlynu a hwyluso’r gwaith o ddatblygu llwybrau cydweithredol i’r farchnad, gwaith hyrwyddo ar y cyd a chyfleoedd eraill ar gyfer cydweithio.

Yn ogystal, bydd y contractwr yn ymgysylltu’n ehangach â thyfwyr garddwriaethol ledled Bro Morgannwg i archwilio cyfleoedd ar gyfer isadeiledd, offer neu gyfleusterau a rennir a allai gryfhau effeithlonrwydd, gwydnwch a hyfywedd masnachol cynhyrchu llysiau lleol yn y tymor hir.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion neu endidau fel ei gilydd. Gan gydnabod y gellir dod o hyd i’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y comisiwn hwn ar draws ystod o sectorau a chefndiroedd proffesiynol, bydd cynigion cydweithredol yn cael eu hystyried lle maent yn darparu gwerth ychwanegol clir ac nad ydynt yn peryglu cyflawni prosiectau’n effeithiol.

Am ragor o wybodaeth, a manylion sut i wneud cais, darllenwch y crynodeb yma.