Mae Bwyd y Fro wedi lansio Strategaeth Fwyd y Fro 2025-2030 – cynllun pum mlynedd i greu system fwyd leol ffyniannus, iach, teg a chynaliadwy.
Daeth unigolion, grwpiau cymunedol, sefydliadau a busnesau at ei gilydd i sefydlu Bwyd y Fro yn 2017 i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol sylweddol – o dlodi bwyd ac afiechyd sy’n gysylltiedig â diet i’r brwydrau a wynebir gan gynhyrchwyr a busnesau bwyd lleol.
Mae’r bartneriaeth – a gynhelir o fewn y Tîm Iechyd Cyhoeddus Lleol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro – hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Bro Morgannwg, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), FareShare Cymru a Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GVS). Yn ddiweddar, enillodd Bwyd y Fro wobr Arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy i gydnabod ei gyflawniadau ar amrywiaeth o faterion bwyd allweddol.
Nod y strategaeth newydd yw:
- Cynyddu mynediad at fwyd iach
- Lleihau gwastraff, diogelu natur a helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd
- Cefnogi cymunedau i dyfu, coginio a rhannu bwyd da
Dywedodd Louise Denham, Cydlynydd Bwyd y Fro: “Dylai pawb allu cael gafael ar fwyd maethlon sy’n cefnogi eu lles a’i fwynhau.
“Rydym eisiau system fwyd cylchol sy’n lleihau gwastraff, sy’n diogelu natur, ac sy’n ymateb i’r argyfwng hinsawdd.
“Dylai ein cymunedau gael yr offer, y sgiliau a’r lleoedd i dyfu, coginio, a rhannu bwyd da.
“Drwy’r strategaeth hon, rydym am gryfhau arweinyddiaeth gymunedol a sicrhau bod gan bobl leol lais go iawn wrth lunio eu system fwyd leol.
“Mae hynny’n golygu gwrando ar brofiadau pobl, cynyddu cefnogaeth i gynhyrchwyr lleol cynaliadwy a mentrau bwyd a chreu cyfleoedd fel y gallwn oll flaenoriaethu bwyd sy’n dda i bobl a’r blaned”
Mae Bwyd y Fro yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau sy’n helpu pobl i dyfu a chael mynediad at fwyd ledled y Sir ac yn mynd ar drywydd cyllid i wireddu ei nodau.
Mae rhagor o wybodaeth am y mentrau hyn ar gael ar ei wefan – https://foodvale.org/