Brecwast Masnach Deg y Fro yn Dathlu Bwyd Moesegol a Gweithredu Cymunedol

Mae Bwyd y Fro, y bartneriaeth fwyd leol ar gyfer Bro Morgannwg, yn dod â phobl, sefydliadau a busnesau at ei gilydd i greu system fwyd leol iachach, decach a mwy cynaliadwy.

Mynychwyd y digwyddiad – a gynhaliwyd Craft Republic yn y Barri – gan ddisgyblion Ysgol Gynradd St Andrews Major, Cynghorwyr Tref a Sir a Jane Hutt AS, Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol.

Mwynhaodd y gwesteion frecwst wedi’i wneud yn gyfan gwbl gyda newyddau Masnach Deg a chynhwysion o ffynonellau moesegol – a drefnwyd gan Grwpiau Masnach Deg Llanilltud Fawr a Dinas Powys – wrth iddynt glywed am Strategaeth Fwyd y Fro 2025 – 2030 sydd ar ddod, gan gynnwys adnewyddu statws Sir Masnach Deg Bro Morgannwg.

Dywedodd Louise Denham, Cydlynydd Bwyd y Fro: “Mae sicrhau bod y bobl sy’n tyfu, cynhyrchu, ac yn cyflenwi ein bwyd yn cael eu trin ag urddas a’u talu pris teg yn rhan hanfodol o adeiladu system fwyd leol, iach a chynaliadwy – waeth ble gallai’r bobl hynny fod.

“Drwy gefnogi Masnach Deg, gallwn gryfhau’r cysylltiad rhwng cymunedau byd-eang a lleol ac adeiladu dyfodol bwyd mwy cynaliadwy, moesegol i bawb.”


Amlinellodd Aileen Burmeister, Pennaeth Masnach Deg Cymru, y wahaniaeth y mae Masnach Deg yn ei wneud i gynhyrchwyr ledled y byd, a dathlodd rôl arloesol Cymru fel Cenedl Masnach Deg gyntaf y byd.
Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Aileen: “Mae Masnach Deg yn darparu prisiau gwell i ffermwyr, mwy o ddiogelwch i’r amgylchedd a chysylltiadau cymunedol. Rydym yn gwybod bod siopa moesegol yn bwysig i 7/10 o bobl yng Nghymru.

“Yn y brecwst blasus a fwynhawyd gennym yn y Barri, gwelsom sut mae Masnach Deg a phobl leol yn dod at ei gilydd ar gyfer dyfodol ein bwyd, ac pwysleisio brwdfrydedd a syniadau newydd i fynd ymhellach dros Fasnach Deg yn y Fro.”


Rhannodd Symon Dovey o The Big Fresh Catering Company – sy’n darparu gwasanaethau arlwyo i sawl ysgol a chaffi ledled y Fro – sut mae’r cwmni’n gweithio i wneud ei gynhyrchion yn fwy cynaliadwy drwy Fasnach Deg.

Yn ystod y digwyddiad, rhannodd y cyfranogwyr syniadau ar sut i hybu ymwybyddiaeth o Fasnach Deg yn y gymuned – o gynnal mwy o ddigwyddiadau Masnach Deg i annog busnesau lleol i stocio cynhyrchion Masnach Deg – cyn ysgrifennu addewidion personol ar fananas Masnach Deg i’w cymryd adref.

Am ragor o wybodaeth am Fasnach Deg yn y Fro yn ogystal â Strategaeth Fwyd ehangach y Fro ar gyfer y pum mlynedd nesaf, cliciwch yma.

Ynglŷn â Bwyd y Fro

Bwys y Fro yw’r bartneriaeth fwyd leol ar gyfer Bro Morgannwg, a gynhelir o fewn y tîm iechyd cyhoeddus lleol.

Mae Bwyd y Fro yn dod â phobl, sefydliadau, busnesau a chymunedau ynghyd ledled Bro Morgannwg i drawsnewid ein system fwyd leol.

Rydym yn credu bod bwyd yn offeryn pwerus ar gyfer newid – ar gyfer iechyd ein cymunedau, ein heconomi leol, ein tirwedd a’n planed.

Rydym yn hyrwyddo arferion bwyd cynaliadwy, yn cefnogi cynhyrchwyr lleol, yn hyrwyddo iechyd a lles trwy fwyd da, ac yn cyflwyno amrywiaeth o brosiectau sy’n cael pobl i dyfu, prynu, coginio a bwyta bwyd da.