Yn dilyn dwy flynedd lwyddiannus o flas, ffermio a chymuned, mae Llwybr Bwyd y Fro yn ôl am y trydydd tro. Yn cael ei gynnal o ddydd Sul 25 Mai i ddydd Mawrth 3 Mehefin 2025, mae’r dathliad deg diwrnod hwn yn addo amserlen lawn o ddigwyddiadau ysbrydoledig, blasus a diddorol i bob oedran a diddordeb – llawer ohonyn nhw am ddim i’w mynychu.
Eleni, mae dros 20 o gynhyrchwyr, ffermydd, busnesau bwyd a lleoliadau lleol yn cymryd rhan, gan gynnig rhaglen fywiog o deithiau, sesiynau blasu, arddangosiadau, gweithdai, arddangosfeydd a mwy – i gyd yn canolbwyntio ar fwyd sy’n dda i bobl, y blaned a lle.
P’un a ydych chi’n hoff o fwyd ac yn chwilfrydig, yn arddwr brwd, yn frwdfrydig am gynaliadwyedd, neu ddim ond yn chwilio am ddiwrnod allan llawn hwyl, mae Llwybr Bwyd y Fro yn cynnig cyfle i archwilio diwylliant bwyd ffyniannus Bro Morgannwg.
Mae’r uchafbwyntiau yn cynnwys:
– Teithiau gardd ac arddangosiadau tyfu gan arloeswyr fel Ali’s Edibles, Coed Organic ac Ediculture, gan rannu technegau effaith isel fel garddio ‘dim palu’ a garddio coedwig.
– Arddangosiadau a digwyddiadau byw gan gynnwys arddangosiad o sut i dorri stêc gyda Farmer’s Pantry ar Fferm Rosedew, arddangosiad ‘Tyfu Eich Hun’ i blant yn Pugh’s Garden Village a ‘Jazz ar y Lawnt’ yn Forage Farm.
– Digwyddiadau di-alcohol / alcohol isel gan gynnwys taith o amgylch planhigfa de yn Peterston Tea, a chydweithrediad creu moctels gyda Grounds for Good a Dirwest.
– Sesiynau blasu gwin, jin a chwrw gan St Hilary Vineyard, Barry Island Spirits Co, Tair Gafr Wines a Craft Republic – gan gynnig sesiynau blasu, teithiau a mewnwelediad i sut mae diodydd lleol yn cael eu gwneud a’u mwynhau.
– Profiadau bwyd rhyngweithiol megis marchnad ffermwyr fach gyda Garlic Meadow,
– saffari fferm y machlud yn Fferm Slade, a thaith dywys i weld ceirw yn Llantrithyd Park.
– Hwyl sy’n addas i’r teulu cyfan yng Ngŵyl Bwyd a Diod y Bont-faen (25–26 Mai) lle bydd Bwyd y Fro yn cynnal gweithgareddau ymarferol a gemau addysgol, a Phicnic Tedi Bêrs yn Fferm Ymddiriedolaeth Amelia.
I weld yr amserlen lawn o ddigwyddiadau, prynu tocynnau (lle bo hynny’n berthnasol) neu gadw eich lleoedd yn y digwyddiadau, ewch i Programme — Vale Food Trail
Mae Llwybr Bwyd y Fro yn gwahodd pobl leol ac ymwelwyr i deithio rhwng y safleoedd ledled y rhanbarth sy’n rhan ohono yn eu pwysau eu hunain, gan greu rhaglen bwrpasol o brofiadau sy’n eu cysylltu’n ddyfnach â ble mae eu bwyd yn dod ohono – ac â’r bobl sy’n ei gynhyrchu.
Dywedodd Louise Denham, Cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn Bwyd y Fro: “Mae Llwybr Bwyd y Fro wedi tyfu’n gyflym i fod yn rhywbeth arbennig iawn – ffordd i bobl gwrdd â’r cynhyrchwyr anhygoel ar garreg eu drws ac archwilio sut mae ein dewisiadau bwyd yn siapio’r byd o’n cwmpas.
P’un a ydych chi’n angerddol am gynaliadwyedd neu wrth eich bodd â bwyd da, mae rhywbeth ar y llwybr i chi.”
Unwaith eto, mae Llwybr Bwyd y Fro 2025 yn cael ei drefnu gan Bwyd y Fro, Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Bro Morgannwg; Ymweld â’r Fro; Cyngor Bro Morgannwg; yn ogystal â rhaglen cymorth busnes Mentera, Cywain. Mae rhagor o fanylion am Lwybr Bwyd y Fro 2025 ar gael yn www.valefoodtrail.com.
Gallwch chi hefyd gofrestru i gael y cylchlythyr ac ymuno â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol trwy ddefnyddio #LlwybrBwydYFro.