Galw am Ymgeiswyr: Prosiect Mapio Bwyd Cymunedol Newydd ar gyfer y Fro

Mae Bwyd y Fro yn chwilio am ymgeiswyr ar gyfer prosiect mapio bwyd cymunedol newydd ar gyfer Bro Morgannwg.

Roedd y Fro yn enwog fel “Gardd Cymru” ar un adeg am ei hamodau tyfu ffafriol. Fodd bynnag, yn y Fro – fel mewn mannau eraill yn y wlad – gwyddom yn anecdotaidd nad oes gennym gyfleoedd i gymunedau gymryd rhan mewn tyfu eu bwyd eu hunain, ac mae rhestrau aros am randiroedd yn parhau’n hir.

Y prosiect hwn yw’r cam cyntaf mewn ymdrech ehangach i ddeall yr anghenion lleol sy’n gysylltiedig â thyfu bwyd cymunedol yn y Fro.

Rydym yn chwilio am geisiadau gan bobl sydd â diddordeb mewn tyfu bwyd cymunedol i gyflawni’r prosiect hwn.

I gael gwybod mwy ac am fanylion ar sut i wneud cais, lawrlwythwch friff y prosiect yma.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 28 Tachwedd 2024.

Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin, rhan o agenda Cronfa Ffyniant Bro y DU.