Fel rhan o Ŵyl Bwyd y Fro eleni, cyflwynodd Amanda Wood, The Micro Greengrocer, weithdy cyffrous yn Ysgol Gynradd Victoria gyda disgyblion o flwyddyn 3 a 5. Mae’r Micro Greengrocer yn fferm fertigol drefol ac yn tyfu microlysiau mewn cynhwysydd cludo lleol wedi ei addasu at ddibenion gwahanol.

Dechreuodd gweithgareddau’r gweithdy ar ddechrau’r ŵyl, pan wnaeth Amanda ymweld â’r plant i siarad â nhw ynghylch pwysigrwydd ystyried tyfu ein cynnyrch ein hunain i dorri’r milltiroedd bwyd sydd gan y rhan fwyaf o’n bwyd ffres o’n harchfarchnadoedd. Trafododd y sesiynau fuddion tyfu microlysiau; sut maent yn tyfu; eu maeth; pam maent yn dda i’r amgylchedd; ryseitiau a sut i dyfu microlysiau gartref. Yna rhoddwyd cyfle i’r disgyblion brofi’r mathau gwahanol o ficrolysiau, oedd yn cynnwys rhuddygl, brocoli, blodau haul a berwr arfog.

Yna, roedd yn amser cael eu dwylo’n fudr! Gwahoddwyd y disgyblion i hau eu hambwrdd eu hunain o ficrolysiau, gan greu enw tîm bachog er mwyn gallu olrhain cynnydd eu microlysiau wrth iddynt dyfu ar fferm fertigol gynaliadwy Amanda.

https://foodvale.org/wp-content/uploads/2022/04/IMG_9003.jpghttps://foodvale.org/wp-content/uploads/2022/04/C132DD4D-FAA6-4327-ABAC-A2CA9E9248EE-scaled.jpeg

Ar ôl i bawb gael cyfle i ddechrau arni, aeth Amanda â’r hadau oedd wedi eu hau’n ofalus yn ôl i’w chynhwysudd cludo lle gallent ffynnu yn amgylchedd a reolir y fferm. Trwy gydol yr wythnos, rhannodd Amanda gynnydd y cnydau a pha mor gyflym yr oeddent yn tyfu. Yn y cyfamser, roedd disgyblion Ysgol Gynradd Victoria yn brysur yn paratoi ar gyfer eu Marchnad Ffermwyr Microlysiau ar ddiwedd yr wythnos. Gwnaethant faneri a phosteri yn hysbysebu’r farchnad, a pharatoi bagiau papur gyda dyluniadau hardd ar gyfer mynd â’r microlysiau wedi eu cynaeafu gartref.

Ar ddiwedd yr ŵyl, roedd y microlysiau yn barod i gael eu cynaeafu. Cafodd y plant eu synnu pa mor gyflym roedd yr hadau wedi tyfu! Dangosodd Amanda i’r disgyblion sut i gynaeafu’r microlysiau yn ofalus o’u hambyrddau, gan wneud yn siŵr eu bod yn glanhau unrhyw gompost a masglau hadau. Yna cafodd y microlysiau eu cymysgu a’u rhannu i mewn i’r bagiau papur yn barod ar gyfer y cwsmeriaid.


Dywedodd Amanda, “Gweithiodd y plant yn wych fel tîm ac roeddent yn drefnus iawn gyda’r system y gwnaethant ei chreu i gynaeafu, pecynnu a labelu eu cynnyrch. Roedd yn hyfryd eu gweld yn mwynhau hau eu hadau ac yna’u paratoi ar gyfer eu marchnad ffermwyr eu hunain – i gyd mewn wythnos! Roedd eu stondin yn hardd iawn, cefais fy ysbrydoli gan eu gwaith”

Cafodd y stondin marchnad ei sefydlu, ac yna roedd y disgyblion yn barod i werthu yn eu Marchnad Ffermwyr. Cafodd llyfrynnau ryseitiau eu dosbarthu hefyd i gwsmeriaid brwdfrydig i roi syniadau iddynt ynghylch defnyddio eu microlysiau, yn cynnwys ‘guacamole’ microlysiau blodyn haul blasus. Roedd y Farchnad Ffermwyr yn llwyddiant mawr a gwerthodd y microlysiau allan mewn llai na hanner awr, gan godi dros £120 mewn cyfraniadau!

https://foodvale.org/wp-content/uploads/2022/04/IMG_9007.jpg